Gwahodd y Brifwyl i Sir Benfro yn 2026
Gwahodd y Brifwyl i Sir Benfro yn 2026
Mae cabinet cyngor Sir Benfro wedi penderfynu gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026.
Byddai yn nodi 850 mlynedd ers i’r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal yn Aberteifi gan yr Arglwydd Rhys.
Mae’r safle y mae'r cyngor yn ei ffafrio yn Llantwd, rhwng Aberteifi ac Eglwyswrw, ar ochr Sir Benfro o’r ffin gyda Cheredigion.
Er bod aelodau’r cabinet wedi penderfynu’n unfrydol i wahodd y brifwyl, cododd rhai aelodau pryderon am y lleoliad.
Ond dywedodd y cynghorydd John Davies, sy’n cynrychioli ardal Cilgerran fod hyn yn “hollol naturiol”.
Dywedodd: “I chi o hyd yn cael y dadleuon hynny pan fod Eisteddfod yn dangos diddordeb mewn unrhyw sir a ma’ hynny’n naturiol.
“Ond ga’th e ei wneud yn hollol glir yn y cyfarfod cabinet y bore ‘ma fod yna ymroddiad i anwesu’r holl sir ag wrth gwrs gan fod ysgolion Cymraeg newydd yn agor yn ne y sir ym Mhenfro nawr a Chaer Elen yn Hwlffordd.
"Ac wrth gwrs mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio Ysgol y Preseli sy’ ‘di bod ar flaen y gad o ran addysg ddwyieithog a Chymraeg yn Sir Benfro.
"Mae’n amlwg mai hon yw’r safle mwya’ deniadol ag yn gobeithio am dywydd gwell fydd yn gwenu ar Gymru yn 2026.”