Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o lofruddio menyw yn Llanelli

11/07/2024
Sophie Evans

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn Llanelli.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Bigyn ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf, ble roedd Sophie Evans, 30 oed, wedi ei chanfod yn farw.

Fe wnaeth y llu lansio ymchwiliad llofruddiaeth, gyda Richard Jones o Y Rhodfa, Porth Tywyn, yn cael ei arestio’n ddiweddarach y diwrnod honno.

Mae swyddogion bellach wedi cyhuddo’r dyn 49 oed, oedd yn adnabyddus i Sophie Evans, o’i llofruddio.

Mae Richard Jones wedi ei gadw yn y ddalfa ac y bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: “Mae ein meddyliau gyda theulu Sophie yn ystod y cyfnod hwn, ac maen nhw’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Mae’r tîm ymchwilio yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned wrth i ymholiadau gael eu cynnal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.