Cynlluniau am ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhondda Cynon Taf
Mae cynlluniau yn cael eu cynnig ar gyfer sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhondda Cynon Taf.
Fe fydd cabinet y sir yn ystyried adroddiad i gychwyn ymgynghoriad ar gyfer sefydlu ysgol i blant 3-11 oed fel rhan o ddatblygiad tai yn Llanilid.
Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o fod yn ddeuol i Saesneg.
Y cynllun yw y bydd gan yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd le ar gyfer 480 o ddisgyblion dosbarth derbyn i flwyddyn chwech, ynghyd â 60 le ar gyfer disgyblion oed meithrin.
Fe fydd Ysgol Gynradd Dolau yn dod yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar yr un pryd.
Mae’r adroddiad yn cynnig y bydd yr ysgol gynradd Gymraeg newydd yn agor erbyn blwyddyn academaidd 2027 fan bellaf.
Ym mis Ionawr, 2016, fe roddodd Cyngor RCT ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer tir ar yr hen safle glo brig yn Llanharan ar gyfer adeiladu 1,850 o dai newydd, unedau manwerthu, canolfan feddygol, llyfrgell/cyfleuster cymunedol, ysgol gynradd newydd a man agored cyhoeddus.
Hybu'r Gymraeg
Dywedodd adroddiad y cabinet mai pwrpas yr ysgol newydd yw sicrhau bod modd cwrdd â'r galw am leoedd ysgol yn y blynyddoedd i ddod ac y byddai'n sicrhau bod yna ysgol cyfrwng Cymraeg penodedig yn yr ardal, a fyddai'n ateb y twf posib yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol gynradd iaith ddeuol 3-11 oed gyda 441 o ddisgyblion ynghyd â 63 o rai meithrin.
Yn ôl data’r awdurdod lleol, mae 155 o ddisgyblion oedran ysgol statudol yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Dolau ar hyn o bryd.
Dywedodd yr adroddiad y byddai sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal yn cynorthwyo targedau Cymraeg y sir a gweledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr adroddiad y byddai gan yr ysgol newydd amgylcheddau dysgu modern, hyblyg i bob disgybl, neuadd fwyta fawr, ardal adnoddau dysgu amlbwrpas, cae chwaraeon 3G a chyfleusterau cwbl hygyrch ac yn cyflawni targedau carbon sero net.
Llun: Perisimmon Homes