Newyddion S4C

Pêl-droed: Gwres eithafol 'ddim yn esgus' dros dangyflawni medd rheolwr Cymru

12/07/2024
Rhian Wilkinson

Bydd yn rhaid i dîm merched Cymru ymdopi â gwres eithafol yn ogystal â’u gwrthwynebwyr nos Wener, wrth iddyn nhw herio Croatia oddi cartref.

Mae rhybudd am wres eithafol mewn grym yn Croatia ddydd Gwener wrth i’r tymereddau godi ar draws cyfandir Ewrop.

Bydd y Cymry yn gobeithio ail-adrodd eu buddugoliaeth 4-0 gartref dros Croatia ym mis Ebrill, wrth iddyn nhw anelu i orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol Euro 2025.

Fe fyddai buddugoliaeth yn Karlovac a llwyddiant yn Llanelli yn erbyn Kosovo nos Fawrth yn ddigon i sicrhau eu bod yn gorffen gemau’r grŵp ar y brig.

Ar ôl dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm gyntaf, fe ddisgynnodd Cymru i’r ail safle yn eu grŵp ar ôl dwy gêm gyfartal yn erbyn Wcráin fis Mai a Mehefin.

'Gweithio am bopeth'

Wrth i’w sylw droi unwaith eto at Croatia, mae’r rheolwr Rhian Wilkinson wedi dweud na allai’r tywydd fod yn esgus os yw’r tîm yn tangyflawni.

“Roedd y gêm gyfartal ddiwethaf yn erbyn Wcráin yn ergyd, ond mae’n ein hatgoffa nad oes unrhyw beth yn cael ei rhoi i chi ym mhêl-droed, ac mae’n rhaid i ni weithio am bopeth yr ydym yn ei gael.

“Felly ni allai unrhyw beth fod yn esgus yn ein hymgyrch – nid y tywydd, y teithio neu’r  ffaith ein bod ni’n cyfarfod rhai o’n chwaraewyr yma gan eu bod heb deithio gyda ni.

“Mae gennym dasg o’n blaenau ac mae’n rhaid i ni ganfod ffordd o’i gyflawni. Dyna yw ein prif ffocws.”

Mae Wilkinson wedi dweud ei bod wedi gwneud cais am egwylion yn ystod y gêm er mwyn i’r chwaraewyr gael diod i ddygymod â’r gwres.

Bydd staff Cymru hefyd yn darparu llieiniau gyda rhew er mwyn helpu’r chwaraewr i ymdopi.

Ceri Holland fydd yn parhau fel capten, ond mae Wilkinson wedi dweud y bydd yn enwi’r capten parhaol maes o law.

Ni fydd sawl aelod o’r garfan ar gael ar gyfer y gêm.

Mae’r amddiffynnwr Josie Green yn parhau wedi’i hanafu, yn ogystal ag Esther Morgan, Hannah Cain ac Elise Hughes.

Llun: Rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson (Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.