Newyddion S4C

Heddlu’n rhyddhau llun o ddyn dan amheuaeth ar ôl darganfod gweddillion dynol mewn dau gês

11/07/2024
Darganfod gweddillion dynol ym Mryste

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi rhyddhau llun o ddyn sydd o dan amheuaeth ar ôl i weddillion dynol gael eu gadael mewn dau gês dillad ar bont ym Mryste.

Disgrifiodd yr heddlu'r dyn y maen nhw'n chwilio amdano fel dyn du, gyda barf ac yn gwisgo cap Adidas, esgidiau ymarfer du gyda gwadnau gwyn trwchus.

Roedd hefyd yn gwisgo clustdlws aur ac yn cario sach gefn du.

Daw hyn ar ôl i'r llu ddarganfod gweddillion dynol mewn dau gês dillad ar Bont Grog Clifton.

Am 23.57 nos Fercher fe dderbyniodd swyddogion adroddiad am ddyn gyda chês dillad yn ymddwyn yn amheus ar y bont.

O fewn 10 munud roedd yr heddlu wedi cyrraedd y lleoliad ond roedd y dyn wedi gadael yr ardal. Cafwyd hyd i ail gês dillad gerllaw.

Y gred yw bod gweddillion dynol yn y ddau gês.

Mae ymchwiliad yr heddlu i geisio darganfod y dyn yn parhau.

Dywed y llu fod y dyn wedi cyrraedd y bont mewn tacsi.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Heddlu Bryste, Vicks Hayward-Melen: “Mae hwn yn ddigwyddiad annifyr iawn ac rwy’n cydnabod yn llwyr y pryder y bydd yn ei achosi i’n cymunedau.

“Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan ein Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr ac mae’n cynnwys swyddogion arbenigol a staff o bob rhan o’n sefydliad.

“Ein blaenoriaeth gyntaf yw dod o hyd i’r dyn aeth â’r cesys i’r bont, adnabod yr unigolyn a fu farw, a hysbysu eu perthynas agosaf.

“Mae swyddogion arbenigol yn barod i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt."

Ychwanegodd: “Cafodd archwiliad o’r ardal ei gynnal ar unwaith gan swyddogion gyda chefnogaeth Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu a Gwylwyr y Glannau EM ar ôl darganfod y cesys. Mae'r chwiliadau hyn yn parhau.

“Mae ymholiadau cychwynnol wedi cadarnhau bod y dyn wedi’i gludo i’r bont mewn tacsi. Mae'r cerbyd hwn wedi'i atafaelu ac mae'r gyrrwr yn ein helpu gyda'n hymholiadau.

“Mae ymchwilwyr lleoliadau trosedd arbenigol ar hyn o bryd yn archwilio’r bont a’r ardal gyfagos a bydd y bont yn parhau ar gau tra bydd yr ymholiadau hyn yn cael eu cynnal.

“Bydd archwiliad post mortem fforensig yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw.

“Ar hyn o bryd mae presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal ac mae unrhyw un sydd â phryderon yn cael ei annog i siarad â swyddog.”

Llun: Heddlu Avon a Gwlad yr Haf 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.