Dyn sydd dan amheuaeth o lofruddio tair dynes yn parhau yn yr ysbyty
Mae dyn sydd o dan amheuaeth o lofruddio tair dynes gyda bwa croes yn parhau yn yr ysbyty.
Roedd Heddlu Sir Hertford wedi bod yn chwilio am Kyle Clifford, 26, mewn cysylltiad â marwolaethau Carol Hunt, 61, gwraig y sylwebydd rasio ceffylau John Hunt, a dwy o'u merched, Hannah, 28, a Louise, 25 yn eu cartref yn Bushey ddydd Mawrth.
Cafodd Clifford ei ddarganfod gydag anafiadau mewn mynwent yn Enfield, gogledd Llundain, brynhawn Mercher cyn cael ei gludo i'r ysbyty am driniaeth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Justine Jenkins o Uned Troseddau Sylweddol Sir Bedford, Caergrawnt a Hertford: “Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod hynod o anodd i deulu’r dioddefwyr a byddwn yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu wrth iddyn nhw ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd."
Ychwanegodd bod yr ymchwiliad "yn symud yn gyflym" ac nad oedd yr heddlu eto wedi adnabod y dioddefwyr yn ffurfiol.
“Yn dilyn ymholiadau helaeth, mae’r sawl sydd dan amheuaeth wedi’i leoli a does neb arall yn cael ei gysylltu â’r ymchwiliad ar hyn o bryd,” meddai.
Mae’r BBC wedi disgrifio marwolaethau aelodau teulu John Hunt fel rhai “hollol ddinistriol”.
Fel rhan o nodyn gafodd ei anfon at staff BBC 5 Live ddydd Mercher, dywedodd y darlledwr y byddai’n rhoi “pob cefnogaeth y gallwn” i Mr Hunt yn dilyn llofruddiaethau Carol Hunt a’i dwy ferch.