Newyddion S4C

Gemau'r Gymanwlad Glasgow yn llai o faint

Ioan Croft

Fe fydd Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2026 yn llai o faint gyda 10 o gampau yn cael eu cynnal yn hytrach nag 19.

Tra y bydd bocsio, seiclo ar drac, athletau a nofio ymhlith y chwaraeon y bydd modd i bobl wylio fydd badminton a hoci ddim i'w gweld.

Cafodd y Gemau eu cynnal yn y ddinas yn yr Alban ddiwethaf yn 2014. Y tro yma byddant yn digwydd rhwng 23 Gorffennaf 23 a 2 Awst ar draws pedwar lleoliad.

Fe gamodd Glasgow i'r adwy ar ôl i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu yn ôl o gynnal y digwyddiad yn sgil y costau cynyddol.

Mae disgwyl i 3,000 o athletwyr gymryd rhan ac fe fydd yna "gystadleuaeth para" ar draws chwech o chwaraeon hefyd.

Mae Prif Weithredwr Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, Katie Sadleir, wedi dweud bod disgwyl i'r Gemau fod yn ddigwyddiad fydd yn "dathlu diwylliant ac amrywiaeth". 

Yn ôl John Swinney, Prif Weinidog yr Alban mae'n gyfle cyffrous i bobl y wlad.

"Tra y bydd Glasgow 2026 yn edrych yn reit wahanol i'r Gemau sydd wedi bod o'r blaen fe allwn ni ac mae'n rhaid i ni gymryd y cyfle yma i gydweithio er mwyn sicrhau bod y cysyniad yma yn dod a dyfodol cynaliadwy a chryf ar gyfer y gemau."

Mae'r trefnwyr wedi cydnabod y bydd rhai cefnogwyr ac athletwyr yn "siomedig" os nad yw eu campau wedi eu cynnwys. Ond maent yn dweud nad yw'r Gemau yn 2026 yn adlewyrchu'r hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol. 
 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.