Apêl am wybodaeth am fenyw o Bontypridd sydd ar goll
Mae Heddlu De Cymru yn pryderu am les menyw 49 oed o Bontypridd sydd ar goll.
Yn ôl yr heddlu cafodd Joanne Jones ei gweld ddiwethaf am 10:00 fore dydd Llun yn mynd i gyfeiriad Llanwynno.
Mae'r llu wedi cyhoeddi llun CCTV ohoni sydd yn ei dangos yn gwisgo cot werdd dywyll, legins, esgidiau cerdded a bag du ar ei chefn.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth neu sydd wedi ei gweld i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400351002.