Recordiau finyl i ddychwelyd i siopau WH Smith
Fe fydd recordiau finyl yn dychwelyd i siopau WH Smith am y tro cyntaf mewn mwy na 30 mlynedd.
Dywedodd y cwmni y bydd y recordiau ar gael mewn 80 o'u siopau ar y stryd fawr yn y Deyrnas Unedig. Gobaith WH Smith yw i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthiant ymysg y genhedlaeth iau.
Fe wnaeth gwerthiant recordiau finyl gynyddu 11.7% y llynedd i bron i chwe miliwn, gan gynyddu am y 16eg flwyddyn yn olynol yn ôl data gan Ddiwydiant Ffonograffig Prydain.
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol Gweithrediadau Stryd Fawr WH Smith Emma Smyth: "Dwi'n siŵr fod yna nifer o gwsmeriaid sy'n cofio treulio oriau mewn siopau recordiau yn edrych drwy'r finylau diweddaraf.
"Dydy hi ddim yn sypreis i mi fod y finyl yn tyfu mewn poblogrwydd eto, ac rydym ni'n edrych ymlaen at eu dychwelyd i fwy na 80 o siopau ar draws y DU i wrandawyr hen a newydd."
Dechreuodd y cwmni werthu albymau finyl yn y 1950au, ond daeth y gwerthiant i ben yn y 1990au wedi i'w poblogrwydd ostwng yn sgil cyflwyno y CD.
Mae dwy siop WH Smith yng Nghymru sydd wedi cadarnhau y byddant yn dechrau ail-werthu'r recordiau, sef yn Llanelli ac yn Nhrefynwy.