Newyddion S4C

Gwahardd cyn-fewnwr Cymru Rhys Webb am bedair blynedd

10/07/2024

Gwahardd cyn-fewnwr Cymru Rhys Webb am bedair blynedd

Mae cyn-fewnwr Cymru Rhys Webb wedi cael ei wahardd am bedair blynedd gan Asiantaeth Gwrth Gyffuriau Ffrainc.

Cafodd Webb ei atal yn fuan ar ôl ymuno â thîm Biarritz yr haf diwethaf ar ôl i brawf brofi’n bositif ar gyfer hormon twf dynol (HGH) yn ystod sesiwn hyfforddi.

Ni fydd Webb yn cael chwarae nes 2027, pan fydd yn 38 oed.

Mae datganiad gan Asiantaeth Gwrth Gyffuriau Ffrainc, yn ôl cyfryngau'r wlad, yn dweud bod Webb wedi’i wahardd rhag cymryd rhan “mewn cystadleuaeth” neu “unrhyw weithgaredd, gan gynnwys hyfforddiant”.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag cymryd delytswyddau "staff rheoli, neu unrhyw weithgaredd gweinyddol o fewn ffederasiwn chwaraeon neu gynghrair broffesiynol” sydd wedi’u “trefnu gan sefydliad sydd wedi llofnodi Cod Gwrth Gyffuriau’r Byd".

Enillodd Webb 40 cap dros Gymru cyn cyhoeddi ei ymddeoliad o gemau rhyngwladol cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023.

Fe chwaraeodd y rhan fwyaf o’i yrfa â’r Gweilch gan dreulio cyfnod gyda Toulon a chwarae un gêm i Bath.

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod yn 2017 i Seland Newydd, gan chwarae mewn dwy gêm brawf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.