Newyddion S4C

Euro 2025: Dros 1,000 o ysgolion yn rhan o Jambori cenedlaethol

Euro 2025: Dros 1,000 o ysgolion yn rhan o Jambori cenedlaethol

Bydd dros 1,000 o ysgolion cynradd Cymru yn ymuno â Jambori Euro 2025 ddydd Mercher. 

Am 10:30, fe fydd yr Urdd, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C a Boom Cymru yn cynnal Jambori Euro Menywod Cymru 2025 yn fyw, ar-lein. 

Bwriad y digwyddiad yn ôl yr Urdd ydy rhoi'r cyfle i ddisgyblion ymhob ysgol gynradd yng Nghymru i ddathlu a chefnogi tîm pêl-droed menywod Cymru.

Mae tîm Rhian Wilkinson wedi cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf erioed, ac fe fyddan nhw yn cychwyn eu hymgyrch yn erbyn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn.

Fe fydd y disgyblion yn canu sawl cân wahanol yn ystod y Jambori, gan gynnwys 'Ymlaen' a gafodd ei chyfansoddi gan Caryl Parry Jones fel anthem i dîm Cymru.

Bydd Eden, Aleighcia Scott a Rose Datta yn ymuno’n fyw i berfformio gyda’r plant.

Dywedodd Aleighcia Scott: "Mae’n achlysur arbennig iawn i ferched Cymru fod yn cystadlu yn yr Ewros am y tro cyntaf, ac alla i ddim aros i gymryd rhan yn Jambori’r Urdd i ddathlu’r foment hanesyddol hon a dod â phlant Cymru ar y daith.

"Byddwn i wedi bod wrth fy modd yn cymryd rhan mewn Jambori fel hyn pan oeddwn i’n blentyn! Dw i’n meddwl ei fod yn wych bod plant ledled Cymru yn gallu ymuno, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg. Gallwch chi lawrlwytho’r caneuon a’r geiriau ymlaen llaw i ymarfer, ac mae cyfieithu ar y pryd ar gael ar y diwrnod hefyd.

“Mae wedi bod yn daith anhygoel i mi ddysgu’r Gymraeg hyd yn hyn, ac mae cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Jambori’r Urdd yn gwneud i mi deimlo bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i mi, a gall berthyn i holl blant Cymru hefyd.”

Ychwanegodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae’r Jambori yn gyfle i ddisgyblion o ysgolion Cymraeg a chyfrwng Saesneg fel ei gilydd i ddod ynghyd, i ddathlu ac ymfalchïo yn eu Cymreictod, a theimlo’n rhan o ymgyrch y tîm pêl-droed cenedlaethol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.