Newyddion S4C

Vaughan Gething yn mynnu ei fod wedi diswyddo'r person iawn am ryddhau negeseuon i'r wasg

10/07/2024

Vaughan Gething yn mynnu ei fod wedi diswyddo'r person iawn am ryddhau negeseuon i'r wasg

Mae’r Prif Weinidog wedi mynnu ei fod wedi diswyddo’r person cywir dros negeseuon testun a gafodd eu rhyddhau i’r wasg.

Ddydd Mawrth, mewn datganiad yn y Senedd, gwadodd yr aelod o'r Senedd dros etholaeth Delyn, Hannah Blythyn, unwaith eto iddi drosglwyddo manylion negeseuon testun i'r wasg am sgyrsiau Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid.

Ond wrth siarad dydd Mercher dywedodd Vaughan Gething bod y dystiolaeth yn glir.

Dywedodd ei fod yn gwybod pa aelodau fyddai wedi gweld y negeseuon.

“Ar ôl croeswirio’r llun gyda’r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg y gallai’r llun fod wedi bod o ffôn un aelod yn unig,” meddai.

Ysgwydodd Ms Blythyn, oedd yn eistedd y tu ôl i Mr Gething, ei phen wrth iddo siarad.

Ychwanegodd Vaughan Gething: “Mae’n hanfodol, wrth gwrs, bod gan weinidogion ymddiriedaeth yn ei gilydd bob amser, a bod trafodaethau preifat yn aros yn breifat.

“Mae darparu’r negeseuon hyn i newyddiadurwr yn torri'r ymddiriedaeth honno.”

Dywedodd y byddai’n well ganddo “beidio â mynd trwy’r manylion hyn yn gyhoeddus”.

Galwodd arweinwyr y gwrthbleidiau, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, am ragor o fanylion.

“A fyddwch chi yn cyhoeddi’r dystiolaeth yr ydych wedi seilio eich barn arni?” meddai Andrew RT Davies.

“Oherwydd yn amlwg, er gwaethaf yr hyn ydych chi wedi ei ddweud heddiw, mae dau adroddiad gwrthgyferbyniol o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y bennod anffodus hon.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: “Mae gyda ni ddwy fersiwn sylfaenol wahanol o'r un digwyddiadau.

“Mae gennym y Prif Weinidog yn dweud bod y dystiolaeth yn glir yn ei feddwl, ac mae gennym aelod yn ei gwneud yn glir iawn, iawn ei bod yn gwadu hynny.”

Dywedodd Vaughan Gething na fyddai yn cyhoeddi unrhyw dystiolaeth os nad oedd “pawb dan sylw yn hapus gyda hynny”.

‘Pryderon’

Ddydd Mawrth fe wnaeth Hannah Blythyn drafod effaith cael ei diswyddo ar ei hiechyd meddwl.   

Mewn datganiad pwerus ar lawr y Senedd, gwadodd yr aelod o'r Senedd dros etholaeth Delyn unwaith eto iddi drosglwyddo manylion negeseuon testun i'r wasg. 

Roedd y manylion yn ymwneud â sgwrs am y cyfnod Covid ac yn cynnwys sylwadau honedig gan y Prif Weinidog Vaughan Gething a oedd yn Weinidog Iechyd ar ddechrau'r pandemig. 

"Dydw i erioed wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth na briffio'r cyfryngau am unrhyw un ohonoch," meddai wrth weddill aelodau'r Senedd. 

"Tra nad wyf yn bwriadu rhannu'r holl fanylion, rwyf yn fodlon dweud wrthych fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses, wrth i mi golli fy rôl yn y Llywodraeth, sy'n cynnwys y ffaith na chefais weld unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo. 

"Ni chefais wybod fy mod o dan ymchwiliad, ac nid ar unrhyw bwynt y cefais fy nghynghori fy mod o bosib wedi torri'r côd gweinidogol." 

"Effaith andwyol"

Aeth ymlaen i ddweud fod ganddi bryderon pellach. 

"Mae gennyf bryderon nad oes gwersi wedi eu dysgu o'r gorffennol,"meddai.

"Rwy'n gwybod fod dyfalu a ydw i'n ddigon da i weithio. 

"Mae'r hyn ddigwyddodd wedi cael effaith andwyol arna i ar lefel bersonol, sydd wedi arwain at boen meddwl a straen."

Ychwanegodd nad yw hi erioed wedi cael llythyr salwch o'r gwaith o'r blaen, a'i bod yn awyddus i dynnu sylw at faterion iechyd meddwl ac effaith hynny.

"Dydw i ddim yn credu bod gwleidyddiaeth wedi torri," meddai "ond gallai fod yn well."  

"Fedrwn ni ddim cael gwleidyddiaeth mwy caredig, heb bobol caredicach."       

Wrth iddi gloi ei haraith, dywedodd mai braint oedd gwasanaethu yn Llywodraeth ei gwlad yn "enwedig o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford "   

Ychwanegodd ei bod yn benderfynol o barhau i gyfrannu tuag at ddemocratiaeth ddatganoledig ei chymuned a'i gwlad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.