Barn y bobl: A ddylai cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yng Nghymru?

Barn y bobl: A ddylai cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yng Nghymru?
Mae disgwyl i holl gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi yn Lloegr ar 19 Gorffennaf ac ar 9 Awst yn yr Alban.
Nid oes cynlluniau o'r fath wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, sydd yn dweud eu bod yn cynllunio ar sail data diweddaraf iechyd cyhoeddus.
Ond beth yw'r farn ar lawr gwlad?
Newyddion S4C aeth i'r strydoedd yng Nghaerdydd i glywed barn y bobl.
"Mae'n iawn i lacio, ond mae angen neud yn araf achos mae neb eisiau cyfnod clo arall," dywedodd un dyn wrth gael eu holi.
"Fi'n digon hapus. Fi'n gallu siopa, fi'n gallu mynd allan am bryd o fwyd. Yr unig beth fi'n teimlo tipyn bach yw bydde fe'n eitha' neis gallu cael teuluoedd yn y cartref. Achos mae hynny dal yn gyfyng yn dyw e?" rhannodd ddynes arall gyda Newyddion S4C.
Llun: Cwmcafit