Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn a fu farw tra'n gweithio mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd

10/07/2024
Kyle Colcomb

Mae cyd-weithwyr dyn a fu farw ar ôl digwyddiad mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Kyle Colcomb yng Nghanolfan Ailgylchu Atlantic yn y brifddinas brynhawn dydd Llun.

Dywedodd M&B Hydraulics mewn datganiad ar Facebook na fyddai neb yn gallu cymryd lle Mr Colcomb.

"Rydym yn drist iawn i ddweud bod Kyle wedi cael ei gymryd oddi wrthym mewn digwyddiad ar safle ailgylchu yng Nghaerdydd.

"Rydym wedi ein dryllio gan golled Kyle. Roedd yn ŵr bonheddig ac yn ddyn hynod o garedig. Nid oes unrhyw un yn gallu cymryd ei le.

"Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda thi a dy adnabod. Cwsg yn dawel ein ffrind.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg ofnadwy hon."

Ymchwiliad

Mewn datganiad byr ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu'r De bod dyn wedi marw a bod ei deulu wedi cael gwybod am y newyddion trist.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn parhau.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Dauson Environmental Group, sydd yn rhedeg y safle: “Rydym yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau brys a rheoleiddwyr gyda’u hymchwiliadau parhaus ar hyn o bryd.”

Prif lun: M&B Hydraulics

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.