Newyddion S4C

Dynes o'r Bala wedi treulio misoedd mewn cadair olwyn ar ôl cael ei tharo gan gyflwr iechyd prin

Newyddion S4C 23/07/2024

Dynes o'r Bala wedi treulio misoedd mewn cadair olwyn ar ôl cael ei tharo gan gyflwr iechyd prin

Llynedd, ar ôl cael ei tharo gan gyflwr iechyd prin mi dreuliodd Rhian Thompson o’r Bala dri mis mewn cadair olwyn. 

Roedd ganddi glefyd Addison's, cyflwr prin awto-imiwn.

Mae’r cyflwr Addison's yn taro wrth i system imiwnedd y corff  ymosod ar y chwarren adrenal.

Bellach, mae cyfuniad o dabledi yn helpu i reoli’r symptomau, ond mae hi’n awyddus i godi ymwybyddiaeth oherwydd heb driniaeth mi allai'r salwch fod wedi arwain at ei marwolaeth.

“Mae o’n flinder llethol, blinder lle ti’m yn gallu brwsho dy ddannedd," meddai wrth raglen Newyddion S4C. "Mae o’n flinder lle ti methu codi allan o’r bath, ti methu gwneud bwyd, ti jyst methu gwneud bron ddim byd.

“O’n i’m yn mynd allan o’r tŷ beth bynnag ond o’n i ‘di mynd mor wan dwi’n meddwl erbyn hynny oedd y corff yn dechrau wedi, wel rhoi fyny mewn ffordd."

'Fy nghorff wedi rhoi fyny'

Ym mis Ebrill 2023 roedd iechyd Rhian wedi dirywio ac mi gafodd ei hanfon i’r ysbyty ar frys.

Roedd hi mor wan mi fuodd hi mewn cadair olwyn am dros dri mis.

Yn fam ac yn nain, mae’r cyflwr wedi cael effaith mawr ar ei bywyd.

Roedd hi’n athrawes ddrama yn Ysgol Godre'r Berwyn ond oherwydd y cyflwr tydi hi ddim wedi gallu gweithio ers tro.

“Ma’ angen sicrhau fod digon o dabledi yn cael ei gymeryd," meddai. "Ma’ ‘na sick day rules fel ma’ nhw’n galw nhw.

"Felly, er enghraifft, os wyt ti yn sâl rwyt ti’n gorfod ddyblu dy ddos neu treblu dy ddos."

Image
Rhian Williams
Nid oedd Rhian yn gallu gwneud pethau arferol o ddydd i ddydd oherwydd ei chyflwr.

Mae gan tua 9,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig glefyd Addison's ac mae dros 300 o achosion newydd yn cael eu cofnodi bob blwyddyn.

Mae cefnogaeth teulu a ffrindiau wedi bod mor bwysig meddai Rhian gan nad ydi Addison's fel nifer o gyflyrau difrifol eraill ddim bob tro yn weledol.

“Y peth mwya’ peryg efo’r cyflwr ydy’r ffaith bod ti’n gallu cael adrenal crisis a wedyn dyna lle ma’r injection yn dod i fewn," meddai.

“O’n i’m yn derbyn, ag o’n i’m yn deall tan yn ddiweddar iawn pa mor sâl o’n i wedi bod.

“Felly ma’ angen codi ymwybyddiaeth a ma’ angen codi’r deallusrwydd o unrhyw glefyd autoimmune."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.