Newyddion S4C

'Mor gyffrous' i fod y Gymraes gyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers 30 blynedd

10/07/2024

'Mor gyffrous' i fod y Gymraes gyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers 30 blynedd

Parti arbennig i ferch arbennig iawn sydd ar fin creu hanes.

Mae Ruby Evans o Gaerdydd ar y ffordd i Baris. Hi yw'r gymnastwraig artistig gynta o Gymru mewn bron 30 blynedd i gystadlu mewn Gemau Olympaidd. Faint o sioc o'dd hwnna?

"Wow!" O't ti ddim yn disgwyl gweld yr holl bobl yma.

"Ie, mae pawb yma o ysgol fi a ffrindiau fi."

Wedi'r parti, yn ôl i'r gampfa, ac am 25 awr yr wythnos dyma ble mae Ruby yn ymarfer yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Mae'n fywyd tra gwahanol i ferched eraill yn eu harddegau ond dyma'r aberth er mwyn bod ar y brig yn ei champ.

"Teimlo mor gyffrous i gystadlu yn yr Olympaidd nesaf gyda Tîm GB. O'n i'n bum mlwydd oed pan dw i wedi mynd i gym cynta fi yn leisure centre.

"Dw i wedi dod yma pan o'n i'n saith mlwydd oed ac aros fan hyn."

Ers pan o'dd hi'n fach, roedd Ruby yn disgleirio yn y gampfa ac yn llwyddo ar draws y byd.

"Mae'r Olympaidd yn obviously huge i fi oherwydd mae pawb yn gwylio fi. I fod gyda tîm, mae jyst mor fawr, mae'r stage yn huge a mae'n grêt."

Gyda Paris ar y gorwel does neb yn fwy balch na'i theulu a'i hathrawon o Ysgol Plasmawr. Mae'n dangos faint mae Ruby yn golygu i'r ysgol.

Mae athrawon, prif a chyn-brif athrawon yma i'w llongyfarch.

"'Sdim geiriau. Mae'r ffaith bod gennych Olympian yn yr ysgol yn ridiculous. Mae 'mond 'di gadael llai na blwyddyn yn ôl a blwyddyn ar ôl gadael ysgol, mae 'di cyrraedd yr Olympic Games.

"Mae faint mor gynnar mae 'di cyrraedd hwnna yn ridiculous! Mae gallu cael hi yn yr ysgol ac fel cyn-ddisgybl yn unreal. Pan ddaeth y cyhoeddiad ddoe, o'dd jyst dagrau.

"Mae'n ferch sy'n gweithio mor galed ac yn haeddu popeth."

Gyda'r llwyfan mwyaf oll yn aros amdani mae Ruby yn gwireddu breuddwyd a'r gobaith o ennill medal i'r Gymraes ifanc yn gwbl real.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.