Newyddion S4C

Casgliadau amgueddfa 'yn ddiogel' meddai gweinidog

Amgueddfa Cymru

Mae casgliadau o bwys cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru 'yn ddiogel' meddai'r gweinidog diwylliant wedi'r cyhoeddiad fod yr adeilad wedi gorfod cau'n ddirybudd.

Wrth ymateb i bryderon gan aelodau'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd Jack Sergeant ei fod wedi cael sicrwydd gan gadeirydd a phrif weithredwr yr amgueddfa  yng Nghaerdydd nad oedd unrhyw fygythiad i'r casgliadau.

Dywedodd fod cyhoeddiad yr Amgueddfa eu bod am gau ar unwaith oherwydd "problemau mecanyddol" yn hytrach na rhai strwythurol.

"Mae Amgueddfa Cymru'n gweithio i ddatrys hyn cyn gynted â phosib," meddai, gan ychwanegu y byddai'r adeilad yn ail-agor "yn fuan iawn."

Ond cyhuddodd Helen Fychan o Blaid Cymru y llywodraeth o anwybyddu sawl rhybudd am yr angen i wneud gwelliannau i'r amgueddfa.

"Rydan ni wedi gweld lluniau o ddŵr yn llifo i mewn i'r orielau," meddai "Mae bwcedi i ddal dŵr yn dod mewn drwy'r to wedi dod yn gymaint o ran o'n casgliadau cenedlaethol a'r gweithiau eu hunain."

Dywedodd Ms Fychan fod casgliadau cenedlaethol Cymru dan fygythiad oherwydd tan-wariant, a dywedodd bod angen cofio be ddigwyddodd ym Mrasil, lle cafodd dros 90% o'u casgliadau cenedlaethol eu dinistrio gan dân.

Dywedodd Mr Sergeant fod y llywodraeth wedi rhoi £1.3 miliwn yn ychwanegol i'r amgueddfa eleni i wneud gwaith brys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.