Newyddion S4C

CPD Caernarfon yn anelu i ‘greu mwy o hanes’ yn Ewrop

11/07/2024

CPD Caernarfon yn anelu i ‘greu mwy o hanes’ yn Ewrop

‘Creu dipyn bach mwy o hanes’ yw’r nod wrth i Glwb Pêl-droed Caernarfon chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Bydd y Cofis yn croesawu clwb Crusaders o Ogledd Iwerddon i Nantporth, ym Mangor, nos Iau, yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol Cyngres Europa UEFA.

Bydden nhw yn un o dri chlwb o ogledd Cymru bydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth nos Iau, wrth i Bala herio Paide Linnameeskond o Estonia, tra bod Cei Connah wedi teithio i brifddinas Slofenia, Ljubljana, i wynebu NK Bravo.

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y Caneris mewn cystadleuaeth pêl-droed Ewropeaidd.

Image
Caernarfon Play-off
Hawliodd CPD Caernarfon eu lle yng Nghyngres Europa UEFA ar ôl curo Pen-y-bont yng ngemau ail gyfle'r Cymru Premier JD (Llun: CBDC)

'Creu mwy o hanes'

Er nad oedd trip i’r cyfandir ar y gweill i gefnogwyr y clwb y tro hwn, mae un o sêr y tîm, Danny Gosset, yn hyderus y gallent ennill dros ddau gymal yn erbyn eu gwrthwynebwyr o Belfast.

Dywedodd Gosset, sydd yn chwarae yng nghanol cae: “Mae’r hogia i gyd yn buzzing at y gêm, methu disgwyl.

“Da ni wedi paratoi’n rili dda. O be dwi’n gwybod, mae’r standard yn eitha tebyg so gobeithio bydd hi’n gêm competitive, a gobeithio gallwn ni pusho nhw a curo’r leg gyntaf adra."

Trip i Wlad Pŵyl sydd yn y fantol wrth i’r enillwyr herio’r cewri Legia Warsaw yn yr ail rownd ragbrofol, yn ogystal â hawlio €350,000 yn ychwanegol mewn arian gwobr.

Image
Caernarfon

Ychwanegodd y cyn chwaraewr Oldham, Stockport a Bangor: “Mae lot di sôn am y draw, yn deud ‘sa ni di gallu cael rhywle gwell, ond dwi’n meddwl ma pethau yn digwydd am reswm ac mae gallu cael draw yn erbyn tîm fel Crusaders, mae 'na chance da sa ni’n gallu curo nhw.

““Fydd o’n ffantastig yn Belfast. A bod yn Iwerddon, fydd y Cofis i gyd yna yn canu efo’r flares allan, a dwi’n siŵr fyddan nhw’n cymryd dros y pubs yn Belfast. So da ni’n rili edrych ymlaen at y gêm yna.

“Dwi’m yn un sy’n sbïo rhy bell ymlaen ond ti methu helpu gweld y second round draw 'na efo tîm fel Legia Warsaw, sy’n dîm mor fawr. So sa fo’n golygu lot i’r clwb sa ni’n gallu cael i’r rownd nesa na.

“Yn ariannol, fysa’n ffantastic a fysa’n rhoi boost mawr i’r clwb. Mae’n neud y tymor Cymru Premier a’r holl waith caled i gyd werth o. 

"'Sa fo’n ffantastic gallu creu dipyn bach mwy o hanes a mynd i mewn i’r rownd nesa.”

Image
Danny Gosset
Danny Gosset (Llun: CBDC)

'Hogyn lleol'

Gan nad yw’r Oval yn gymwys i gynnal gemau UEFA, Nantporth, sef cartref CPD Bangor 1876 fydd y lleoliad ar gyfer y cymal cyntaf, cyn yr ail gymal yn Seaview, Belfast, wythnos i ddydd Iau. Gyda phob tocyn wedi eu gwerthu, fe fydd dros mil o gefnogwyr yno i wylio'r gêm.

Wedi’i fagu yn y Felinheli ond bellach yn byw ym Mhontllyfni, mae Gosset yn un o hogiau lleol y tîm, yn ogystal â’r capten, Darren ‘Cofi Messi’ Thomas, Dion Donohue, Gruff John ac eraill.

Er iddo chwarae yn Ewrop dros Fangor a’r Bala yn y gorffennol, mae teimlad ‘gwahanol’ y tro hwn, meddai.

Image
Darren Thomas
Capten Caernarfon, Darren Thomas (Llun: CBDC)

“Dwi’n hogyn lleol ac mae’n golygu lot i fi. O’n i’n ysgol yn Gaernarfon a tyfu i fyny yn gwatchad y clwb. So i fod yn rhan o’r tîm sydd wedi helpu nhw cael fewn i Ewrop, mae’n golygu lot i fi hefyd.

“O’n i’n siarad efo un o’r ffans tu allan ddoe, Mark, ag oedd o’n deud doedd o ddim wedi gweld dim byd fatha fo ers y FA Cup run naethon nhw gael blynyddoedd yn ôl [1986/87], so mae’n feddwl gymaint.

“Mae’n rhoi Caernarfon ar y map. Mae’n meddwl gymaint i’r clwb, i’r ffans, i’r bobol o Gaernarfon. Mae 'na buzz mawr o gwmpas y lle.”

Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C am 18.00 nos Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.