Newyddion S4C

Penodi prif swyddog newydd i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyfnod cythryblus

10/07/2024
Prif Swyddog Tân

Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi penodi'r Is-farsial Awyr Fin Monahan OBE DFC PhD yn Brif Swyddog Tân newydd.

Daw ei benodiad wedi cyfnod cythryblus i'r gwasanaeth. 

Cafodd adolygiad allanol ei gynnal i Wasanaeth Tân De Cymru yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin menywod gan ddiffoddwyr tân.

Cafodd 450 aelod o staff a 60 o gyn-aelodau'r gwasanaeth eu holi fel rhan o'r adolygiad.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad ym mis Ionawr bod "diffygion difrifol" yn y gwasanaeth, gan gynnwys cyfathrebu, systemau, polisïau a gweithdrefnau gwael; modelau rôl annigonol gan arweinwyr a rheolwyr; a diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau recriwtio a dyrchafu.

Ychwanegodd yr adroddiad hefyd bod diffyg amrywiaeth o fewn y gwasanaeth, ac roedd ymddygiad problematig yn cael ei ddioddef, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, cam-drin domestig ac ymddygiad ymosodol corfforol y tu allan i'r gwaith; bwlio, ‘cellwair’ niweidiol, cam-drin cyffuriau ac alcohol, ac ymyrraeth amhriodol â gweithdrefnau.

'Arweinydd eithriadol'

Dywedodd y Comisiynydd Carl Foulkes, cadeirydd y panel penodi: “Trwy gydol y broses recriwtio hon, roedd y Comisiynwyr yn ymwybodol dros ben o bwysigrwydd dod o hyd i arweinydd eithriadol i arwain y Gwasanaeth drwy’r newidiadau diwylliannol a threfniadol y mae’n eu hwynebu.

“Galwodd Adolygiad Morris, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, ar y Gwasanaeth i ehangu ei ddull o recriwtio ar gyfer swyddi lefel uwch, a dyna pam y gwnaethom ymestyn y broses chwilio y tu allan i’r sector tân ac achub.

“Ar ddiwedd pum niwrnod o ymarferion, paneli, a chyfweliadau, roedd Fin Monahan yn sefyll allan fel y person gorau a mwyaf priodol ar gyfer y rôl, ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi derbyn y gwahoddiad i ymuno ac arwain y Gwasanaeth."

'Anrhydedd'

Wrth ymateb i'w benodiad, dywedodd Is-farsial yr Awyrlu Fin Monahan: “Mae’n anrhydedd gen i gael fy ymddiried â’r rôl bwysig hon, ac rwy’n ddiolchgar i’r staff, yr undebau, y rhanddeiliaid a’r Comisiynwyr am gael hyder ynof.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â thîm Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Hoffwn i weld pob aelod o staff, ym mhob rôl a lleoliad, yn teimlo’n falch o’u gwaith, ac yn ymuno â fi a’r tîm arwain i ailadeiladu’r Gwasanaeth yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo bod croeso a chefnogaeth iddynt, a’u bod yn ddiogel. 

"Bydd hynny’n ein helpu i greu’r cydlyniant a’r cymorth sydd ei hangen i gyflawni ein cenhadaeth i gadw 1.5 miliwn o ddinasyddion De Cymru yn ddiogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.