Newyddion S4C

Y Brenin a'r Frenhines yn y Senedd i nodi 25 mlynedd o ddatganoli

11/07/2024
Brenin (PA).

Mae'r Brenin a’r Frenhines yn y Senedd er mwyn traddodi araith mewn seremoni i nodi 25 mlynedd ers ethol yr aelodau cyntaf i’r sefydliad.

Bydd anerchiadau yn y seremoni hefyd gan arweinwyr yr holl brif bleidiau, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, a hefyd y Llywydd Elin Jones.

Mae’r dathliad 25 mlynedd yn cyd-daro â phasio cyfraith newydd a fydd yn cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau ac yn cyflwyno system bleidleisio newydd yn etholiad 2026.

Roedd y Llywydd, Elin Jones, yn un o’r aelodau cyntaf i gael ei hethol i’r Cynulliad yn 1999 a dywedodd bod Cymru wedi bod ar “siwrnai drawsnewidiol” ers hynny.

“Ers hynny, daeth yn Senedd aeddfed, sy’n gallu gwneud cyfreithiau mewn meysydd sy’n hollbwysig i fywydau pobl,” meddai.

“Dyma Senedd fodern a hyblyg, y mae cynaliadwyedd yn gwbl ganolog iddi. Senedd ddwyieithog, sy’n falch o weithio yn ein dwy iaith swyddogol. Yn 2003, hi oedd y senedd gytbwys o ran rhywedd gyntaf yn y byd.

“Mae ein siwrnai’n parhau. Yn 2026, bydd pleidleiswyr yn ethol 36 yn rhagor o Aelodau i’r Senedd, a fydd yn cynnig llais cryfach i bobl Cymru, cynrychiolaeth well a mwy o graffu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu rhan.

“Mae gwleidyddion wedi mynd a dod, a phob un wedi gwneud ei gyfraniad ei hun. Ond nid Senedd y gwleidyddion mo hon – i bobl Cymru y mae’n perthyn, y bobl a saernïodd hi ac sy’n llunio ei dyfodol.”

Ymweliad Brenhinol

Wrth i'r Brenin a'r Frenhines fynd i mewn i’r Siambr, fe wnaeth Mared Pugh-Evans, sydd wedi’i phenodi’n delynores y Brenin, chwarae – dyma oedd ei pherfformiad cyntaf yn ei swydd newydd.

Cafodd dwy gerdd a ysgrifennwyd gan Aron Pritchard eu perfformio, un a ysgrifennwyd pan oedd yn ddisgybl ysgol i nodi agoriad swyddogol cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999 ac un newydd a ysgrifennwyd ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae Mr Pritchard bellach yn aelod o staff yn y Senedd.

Roedd côr o ysgol gynradd leol, Ysgol Treganna, hefyd yn perfformio - ar ôl dod ar draws Prif Weinidog newydd y DU wrth ymarfer yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon.

Yn ystod eu hymweliad â’r Senedd, fe wnaeth Y Brenin a’r Frenhines gwrdd â phobl o’r gymuned sydd wedi cyfrannu at waith y Senedd, gan gynnwys Neil Evans, y deisebydd a ddechreuodd ymgyrch lwyddiannus ar gyfer codi tâl am fagiau siopa plastig yn 2007.

Ymhlith y gwesteion hefyd mae:

  • Sarra Ibrahim, sydd wedi rhoi tystiolaeth werthfawr i bwyllgorau’r Senedd ar amryw faterion yn ymwneud â gofal plant, trais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol.
  • Yr ymgyrchydd canser Claire O'Shea, a rannodd ei stori i fynnu gwell triniaethau a chanlyniadau canser gynaecolegol yng Nghymru.
  • Angel Ezeadum, cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a ymgyrchodd yn llwyddiannus i wneud addysgu Hanes Pobl Dduon yn orfodol yn ysgolion Cymru.

Cafodd tusw o flodau ei gyflwyno i’r Frenhines gan Celyn Matthews-Williams, sy’n 10 oed ac yn dod o Lanelli, un o Bencampwyr Cymunedol Covid y Senedd. 

Yn ystod y pandemig, cododd arian ar gyfer banciau bwyd ac Ambiwlans Awyr Cymru, a daeth â llawenydd i’w chymuned drwy dyfu blodau haul a sefydlu cyfnewidfa lyfrau ar wal ei gardd. 

Fe wnaeth y Brenin a’r Frenhines hefyd gwrdd ag aelodau o staff y Senedd sydd wedi gweithio yno ers 25 mlynedd, neu sydd eu hunain yn 25 oed, a chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.