Newyddion S4C

'Cymru mor bwysig i mi': Argraffiadau cyntaf Craig Bellamy fel rheolwr ei wlad

10/07/2024

'Cymru mor bwysig i mi': Argraffiadau cyntaf Craig Bellamy fel rheolwr ei wlad

Yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ers iddo gael ei benodi yn rheolwr Cymru, mae Craig Bellamy wedi dweud ei fod "mor hapus" i fod yn y swydd. 

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fore Mawrth mai Bellamy oedd y rheolwr nesaf ar Gymru, ychydig wythnosau wedi i Rob Page gael ei ddiswyddo yn dilyn nifer o ganlyniadau siomedig.

Fe ymddangosodd Bellamy 78 o weithiau i Gymru cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2013.

Daeth yn agos at gael y swydd yn ôl yn 2018 cyn i'r Gymdeithas benodi Ryan Giggs.

Mae Bellamy, sy’n dal Trwydded Pro UEFA trwy system Addysg Hyfforddi CBDC, wedi bod yn hyfforddwr ers ymddeol o chwarae yn 2014, ac yn ddiweddar bu’n Hyfforddwr Cynorthwyol yn Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

Cyn ymuno â Burnley, roedd Bellamy yn Rheolwr Tîm Dan 21 ac yn Hyfforddwr Cynorthwyol Tîm Hŷn Anderlecht, yn ogystal â gweithio yn academi CPD Dinas Caerdydd.

Wrth siarad gyda'r wasg ddydd Mercher am y tro cyntaf ers cael ei benodi, dywedodd Bellamy: "Dros y misoedd diwethaf, ro’n i’n hapus, ond ro’n i angen mwy. 

"Daeth hi’n glir fy mod i angen chwilio am y rôl rhif un yna yn nhermau fy natblygiad. Fe wnes i hynny yn glir i fi fy hun ac yna fe newidiodd y sefyllfa gyda Chymru. 

"Ro’n i dal yn ystyried rheoli clwb pêl-droed, ond mae Cymru wastad wedi bod mor bwysig i mi. 

"Cefais fy ngeni yma, treuliais dipyn o fy nghyrfa i ffwrdd ond mae’r cyfle i arwain eich tîm cenedlaethol yn brin. Daeth yn glir i mi os oedd yna gyfle i wneud hyn, dyma oeddwn i eisiau ei wneud.

“Doeddwn i erioed yn teimlo’r angen i fod yn rheolwr. Dwi wedi treulio llawer o fy ngyrfa yn y penawdau. Mae unrhyw un sy’n fy adnabod i yn gwybod nad ydw i angen y sylw, dwi’n eitha cyfforddus hebddo. Dwi’n caru pêl-droed, ond mae’n cyrraedd pwynt lle ro’n i’n teimlo fy mod i wedi cyrraedd lle’r oeddwn i angen cyrraedd. "

Mae'r gwaith paratoi eisoes wedi dechrau ar gyfer y gemau cyntaf ym mis Medi yn ôl Bellamy. 

“Er mwyn cyrraedd pencampwriaethau, mae’r gwaith yn dechrau rwan. Y gêm gyntaf – Twrci, dwi wedi eu gwylio nhw wyth gwaith yn barod," meddai.

"Mae’r chwaraewyr yn eich gweld chi’n mynd i’r manylder yna ac mae hynny yn rhoi’r cyfle iddyn nhw weithio mor galed â sy’n bosib. Os nad ydych chi’n gweithio gyda’ch gilydd, dydy pethau ddim yn gweithio.

"Dwi’n beirniadu fy hun yn fwy na neb. Dwi’n benderfynol i fod y person gorau y galla i fod. 

"Mae’n bwysig i mi fod y gorau y galla i fod, nid yn unig yn fy ngwaith ond hefyd fel person. Dwi wedi cymryd cyfrifoldeb am bob camgymeriad dwi wedi ei wneud."

Mae gan Bellamy datŵ o Frwydr Pilleth ym 1402 a gafodd ei harwain gan Owain Glyndŵr, ac mae hanes Cymru yn bwysig iawn iddo. 

"Mae fy merch ifanc rwan yn mynd i ysgol Gymraeg ac mae hynny yn ofnadwy o bwysig. Os ydw i’n gefnogwr o gamp chwaraeon neu o fod yn Gymro, mae’n rhaid i mi wybod popeth amdano, dwi angen gwybod am yr hanes, a gyda’r tatŵ, roedd yn ofnadwy o bwysig i mi," meddai.

"Dwi o Gymru, dwi angen gwybod beth sydd wedi digwydd yng Nghymru a hanes Cymru. Dwi angen gwybod o lle dwi’n dod a’r hanes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.