Newyddion S4C

Chwilio am ddyn 'gyda bwa croes' ar ôl i aelodau teulu gohebydd BBC gael eu 'llofruddio'

10/07/2024
Kyle Clifford

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn 26 oed sydd o dan amheuaeth o lofruddio tair dynes yn Sir Hertford. 

Dywedodd yr heddlu mai gwraig y sylwebydd rasio ceffylau John Hunt, Carol Hunt, a dwy o’i ferched oedd y rhai a gafodd eu lladd. 
 
Roedd Hannah Hunt yn 28 oed, Louise Hunt yn 25 oed a Carol Hunt yn 61 oed. 
 
Bu farw'r tair yn y fan a'r lle yn ôl yr heddlu.  
 
Roedd yn ymddangos bod yr ymdrech i ddod o hyd i'r dyn sydd dan amheuaeth o'u llofruddio, Kyle Clifford, yn canolbwyntio ar fynwent yn ardal Hilly Fields yn Enfield, gogledd Llundain brynhawn dydd Mercher.
 
Roedd y gwasanaethau brys, gan gynnwys heddlu arfog, i’w gweld yn yr ardal mewn lluniau a bostiwyd ar gyfryngau cymdeithasol, gyda Heddlu Sir Hertford yn dweud nad oedden nhw’n gallu cadarnhau a ydyn nhw wedi cyfyngu'r gwaith chwilio i un ardal benodol.
 
Bu heddlu arfog hefyd yn chwilio cartref yn Rendlesham Road, Enfield, fore Mercher wrth i'r gwaith o chwilio am Clifford barhau.
 
Mae’r BBC wedi disgrifio marwolaethau aelodau teulu John Hunt fel rhai “hollol ddinistriol”.

Fel rhan o nodyn gafodd ei anfon at staff BBC 5 Live ddydd Mercher, dywedodd y darlledwr y byddai’n rhoi “pob cefnogaeth y gallwn” i Mr Hunt yn dilyn llofruddiaethau Carol Hunt a’i dwy ferch. 

Mae'r heddlu yn chwilio am Kyle Clifford mewn cysylltiad â'r marwolaethau, a'r gred yw fod ganddo fwa croes yn ei feddiant. 

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Rob Hall o Heddlu Sir Hertford: "Yn sgil natur ddifrifol y digwyddiad, dwi'n gofyn ar unrhyw un sy'n gwybod lle mae Kyle Clifford i gysylltu gyda'r heddlu ar unwaith. 

"Os ydych chi'n credu eich bod chi'n ei weld, peidiwch â mynd ato. Ffoniwch 999 yn syth. Gallai fod ag arf yn ei feddiant o hyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.