Newyddion S4C

Tad o'r Rhondda wedi colli dros 40% o bwysau ei gorff mewn blwyddyn

10/07/2024
Phillip, Rhondda Cynon Taf

Mae tad o Rondda Cynon Taf wedi colli mwy na 40% o bwysau ei gorff mewn blwyddyn.

Roedd Phillip Sainsbury - sy'n 42 oed ac yn byw ym Mhontypridd gyda'i wraig, Cheryl, 42, a'u dau blentyn, Jake, 17, a Lexi, 14 - wedi magu pwysau ar ôl blynyddoedd o weithio mewn swydd ddesg a pheidio â blaenoriaethu ei iechyd.

Fe ymunodd Phillip, sy'n chwe throedfedd ac yn arfer pwyso 118kg, â'r rhaglen colli pwysau Man V Fat ar ôl i’w fab ei bryfocio am ei bwysau.

Yn dilyn y chwe mis cyntaf, roedd Phillip wedi llwyddo i golli 43.5kg.

O ganlyniad, fe gynyddodd ei hyder ac fe aeth ymlaen i wynebu ei ofn o uchder, gan nenblymio ym mis Hydref 2023.

Ers hynny, mae Phillip wedi ymuno â dau dîm pêl-droed yng nghynghrair pêl-droed Taf Elai a Chwm Rhymni a chynghrair pêl-droed Cymru.

‘Dim hyder'

“Cyn i mi ymuno â Man V Fat, o ran hyder, wnes i ddim gwneud rhai pethau, oherwydd ro'n i'n teimlo na allwn i,” meddai Phillip.

“Felly ro'n i'n arfer meddwl nad oedd gen i unrhyw beth i fod yn hyderus yn ei gylch.

“Mae gen i agwedd positif ar bethau nawr – pan fydd rhywbeth heriol yn digwydd, dw i’n ei weld fel her yn hytrach na rhywbeth negyddol.”

Cyn cychwyn ar ei daith colli pwysau, mae Phillip yn cyfaddef nad oedd wedi blaenoriaethu ei iechyd.

Roedd Phillip yn bwyta tua thri tecawê yr wythnos ac yn dibynnu ar fwyd cyfleus.

Roedd ganddo swydd ddesg, ac unwaith y byddai'r diwrnod gwaith yn dod i ben, byddai'n mynd adref ac yn parhau i eistedd i lawr am weddill y diwrnod.

“Do'n i ddim yn actif iawn o gwbl, ro'n i mewn ychydig o rut a dweud y gwir,” meddai.

“Yn feddyliol, mae’n debyg fy mod wedi cael ambell i her yn mynd ymlaen… ro'n i’n bwyta ac yn bwyta, ac nid o'n i'n edrych ar ôl fy hun.”

Roedd ei fab yn aml yn ei bryfocio am ei bwysau a'i ddiffyg ymarfer corff - nes, un diwrnod, sylweddolodd Phillip y dylai wneud rhywbeth yn ei gylch.

Ym mis Mehefin 2023, daeth Phillip ar draws hysbyseb ar gyfer Man V Fat, sef rhaglen colli pwysau sy'n rhoi dynion mewn timau pêl-droed, gan ennill pwyntiau am golli pwysau yn ogystal â goliau sy'n cael eu sgorio.

Roedd Phillip yn gweld hwn yn gyfle perffaith i gymryd rheolaeth o'i iechyd, felly fe ymunodd â'r rhaglen.

Yn fuan wedyn, fe ddechreuodd gael sesiynau pêl-droed wythnosol gyda dynion eraill a oedd yn gobeithio colli pwysau.

'Canolbwyntio ar y tîm'

“Yn fy nhymor diwethaf, nes i lwyddo i ennill gwobr y prif sgoriwr sydd ar gyfer pwy bynnag sy’n cael y mwyaf o sgoriau am golli pwysau, ac fe wnaeth fy nhîm ennill y gynghrair,” meddai.

“Mae’n teimlo fel eich bod chi ymhlith ffrindiau… ac mae pawb yno’n ceisio colli pwysau.

“Pan rydych chi'n ceisio colli pwysau ar eich pen eich hun, mae'n anoddach oherwydd does gennych chi ddim atebolrwydd.

“Ond gyda hwn, pan ddaw nos Wener, dydych chi ddim eisiau gadael eich tîm i lawr – dydych chi ddim yn canolbwyntio arnoch chi’ch hun yn unig, rydych chi’n canolbwyntio ar y tîm.”

Image
Phillip

 

Neges Phillip i ddynion eraill sy’n gobeithio colli pwysau yw “cadw ati”

“Dw i'n meddwl mai’r her fwyaf yw cadw ati… gyda Man V Fat, y peth gorau amdano yw teimlad y gymuned ac mae’n help mawr,” meddai.

“Dw i'n meddwl weithiau bod yn rhaid i chi gofio na fydd yn digwydd dros nos... Do'n i byth wedi meddwl y gallwn ei wneud, ond dw i wedi.

“Dw i hyd yn oed wedi cofrestru i wneud hanner marathon Casnewydd y flwyddyn nesaf – dw i'n llawer mwy hyderus nawr, mae’n wallgof.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.