Newyddion S4C

Etholiad '24: Plaid Cymru yn croesawu canlyniad 'hanesyddol'

09/07/2024

Etholiad '24: Plaid Cymru yn croesawu canlyniad 'hanesyddol'

"Llongyfarchiadau Caerfyrddin, Ynys Môn, Ceredigion, Dwyfor Meirionnydd.

"A phob un o ymgeiswyr gwych Plaid Cymru."

Pe bai angen unrhyw sicrwydd o frwdfrydedd Plaid Cymru heddiw sbiwch draw am Gaerfyrddin.

Yn sedd darged, mae gan y blaid fwyafrif o dros 4,500 yma a'r aelod seneddol newydd yn dod i arfer a'i theitl newydd!

"Mae hwn yn mynd i fod y tro cynta i fi wneud hwn.

"Ann Davies, Aelod Seneddol Caerfyrddin."

Ochr yn ochr ag un o fawrion chwedlonol lleol y blaid mae'r dathliadau'n parhau heddiw.

"Fi'n teimlo'n freintiedig iawn.

"Mae ton o gefnogaeth 'ma.

"Yr un gefnogaeth dw i wedi cael yn ystod yr ymgyrch.

"Pobl lleol, pobl Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn fy nghefnogi i."

Draw yn y gogledd a stori debyg oedd hi ym Môn.

Wedi noson llawn tensiwn ac ansicr ar brydiau dyma ethol Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, yn Aelod Seneddol.

Yn foment ddagreuol i'w merch, gorfoledd i'r teulu cyfan.

Yn groes i'r disgwyl o gofio'r darlun cenedlaethol daeth y Ceidwadwr Virginia Crosbie yn ail agos.

Doedd hi ddim na'i thîm am wneud sylw wrth adael neithiwr.

Ac er yn noson lwyddiannus i Lafur ar draws y Deyrnas Unedig trydydd oedd hi i'w hymgeisydd ym Môn.

"Huge congratulations to Llinos."

Mae 'na newid lliw i Ynys Môn felly o las i wyrdd a'r tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 2001 a'r ymateb o hyd yn eithaf cymysg yn Llangefni.

"Dw i'n meddwl bod Virginia wedi neud yn o lew i ni.

"Fel dw i'n deud eto, remains to be seen."

"Dw i ddim wedi clywed lot am Llinos Medi.

"Dw i efo diddordeb i weld be mae hi am wneud.

"Ni wedi ymadael ag un clown fel MP, a 'dan ni'n cael clown arall."

Dach chi'm yn hapus?

"Nac ydw i, tad mawr."

"Mae mor wych gweld Llinos Medi yn cipio'r sedd.

"Mae hi mor angerddol dros Ynys Môn.

"Fedra i ddim meddwl am neb gwell i gynrychioli Môn."

"Llafur ydw i, wa'th i mi ddeud. Ond da hi, pob lwc iddi."

Fel prif sedd darged i Blaid Cymru mi oedd cipio Ynys Môn yn eithriadol o bwysig er o drwch blewyn.

Dros y dŵr, llwyddiant yn y cadarnleoedd a llefydd annisgwyl ym Mangor Aberconwy a Gorllewin Caerdydd.

Wedi noson lwyddiannus, mae'r gwaith caled yn dechrau.

"Dw i'n teimlo yn ofnadwy o lwcus ond mae heriau yn wynebu Môn.

"Mae sialens o fy 'mlaen i ac mae'n rhaid i mi ddangos i bobl Môn bod nhw wedi gwneud y penderfyniad cywir a symud cynlluniau ymlaen i weld y gwahaniaeth."

Mae 'na heriau enfawr yma ym Môn a thu hwnt i Blaid Cymru ac wrth i'r dathlu cilio, mae'r gwaith caled go iawn yn dechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.