Newyddion S4C

Etholiad '24: Buddugoliaeth i Lafur a chrasfa i'r Ceidwadwyr

09/07/2024

Etholiad '24: Buddugoliaeth i Lafur a chrasfa i'r Ceidwadwyr

Y floedd dros Lafur yng Nghymru, yn yr Alban a thrwy'r Deyrnas Unedig a'r arweinydd yn diolch.

"We did it!"

Ac addo newid.

"You campaigned for it, you fought for it you voted for it, and now it has arrived.

"Change begins now."

"Shapps, Grant, the Conservative Party candidate..."

I'r Ceidwadwyr, crasfa yng Nghymru a thu hwnt.

"May I begin by giving my warmest congratulations to Dan Norris..."

A rhestr hir o gewri Ceidwadol nawr yn chwilio am swyddi.

O arweinydd y Ty, Penny Mordaunt i'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Grant Shapps a'r Brexiteer blaenllaw, Jacob Rees-Mogg.

Ond ai'r foment yma, y cyn-Brif Weinidog, Liz Truss yn colli oedd un o eiliadau mwyaf arwyddocaol y noson ryfeddol hon.

Wedi 14 mlynedd o deyrnasiad Toriaidd cyfle i ffarwelio am y tro olaf a 10 Downing Street.

"I have heard your anger, your disappointment and I take responsibility for this loss.

"To all the Conservative candidates and campaigners who worked tirelessly but without success I am sorry that we could not deliver what your efforts deserve."

"Mae wedi bod yn grasfa fawr ac er bod Llafur wedi gweithio'n galed i ennill ac yn haeddu a dymuno'n dda iddyn nhw mae'r Ceidwadwyr wedi colli'r etholiad 'ma achos ymgecru anystywallt rhwng ei gilydd am flynyddoedd.

"Sa i'n gwybod faint o weithiau dw i 'di gweud yn breifat ac yn gyhoeddus 'sen nhw ond yn gweithio fel tîm tu ôl y capten fyddai'r etholiad 'di bod yn lot nes nag yr oedd.

"Felly, maen nhw nawr yn mynd i fedi'r cynhaeaf maen nhw 'di hau."

"And so, he is the country's Prime Minister."

I Syr Keir Starmer, tasg gynta'r dydd ymweliad a'r Palas a sgwrs 'da'r Brenin.

Oddi yno, y daith i'r cartref newydd a'r croeso yno'n gynnes.

Golygfeydd tebyg i'r rhain o'dd adeg buddugoliaeth Tony Blair dros chwarter canrif yn ôl.

Y dathliadau cyn i'r gwaith caled ddechrau.

"You have given us a clear mandate and we will use it to deliver change to restore service and respect to politics.

"End the era of noisy performance, tread more lightly on your lives and unite our country.

"Four nations standing together again.

"Our work is urgent and we begin it today.

"Thank you very much."

Yn 2019, fe chwalodd y Ceidwadwyr y Wal Goch o seddi Llafur yn y gogledd-ddwyrain.

Neithiwr, dychwelodd y llif Llafur ac ennill buddugoliaeth ysgubol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Ond ai Llafur enillodd yr etholiad yma neu'r Ceidwadwyr gollodd e?

"Ro'dd o'n anodd iddyn nhw ddod yn ôl ar ôl popeth efo Liz Truss a Sunak a'r holl issues efo'r leadership election."

Chi'n gyffrous o gwbl am Lafur sy'n addo newid?

"Dw i ddim yn meddwl gall neb newid dim byd."

"Dw i braidd yn disappointed, o'n i ddim eisiau Labour i ennill."

"Dyw'r Ceidwadwyr ddim 'di helpu eu hunain rhwng pob peth yn mynd o un peth i'r llall.

"Ond adeg i gael tipyn bach o newid."

# Sweet Caroline #

At un sy 'di mwynhau'r ymgyrch.

Roedd 'na gyfle eto neithiwr i Ed Davey a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddathlu'r 71 sedd a nifer wedi dwyn gan Geidwadwyr amlwg.

A phlaid Reform, hen wyneb cyfarwydd Nigel Farage yn cipio Clacton ynghyd a thair sedd arall gan ddod yn ail i Lafur droeon gan gynnwys yma yng Nghymru.

I Blaid Cymru, roedd 'na lwyddiant.

Cadw dwy ac ennill dwy yw eu hanes nhw a Chaerfyrddin a Môn heno'n wyrdd.

"O lannau gogleddol Cymru i lannau'r de.

"Etholaethau i gyd yn cael eu cynrychioli gan Blaid Cymru.

"Mae'n deimlad da ond nid mater o gyfri etholaethau ydy hyn ond ceisio sicrhau'r gynrychiolaeth orau i Gymru.

"Dw i'n gwybod drwy'r pedwar yna y bydd gan Gymru lais.

"Effeithiol drwy sicrhau bod y llais yn cael ei glywed."

Am ddegawd a hanner, Ceidwadwyr sy 'di byw ar y stryd enwog yma.

Trechu'r Toriaid o'dd y cam cyntaf. Nawr, mae Syr Keir Starmer yn bennaeth ar y Llywodraeth Lafur gyntaf yn San Steffan ers 2010.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.