Newyddion S4C

Ysbyty Maelor Wrecsam yn methu un o'i gleifion 'oherwydd ei hanableddau'

10/07/2024
Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae un o ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi “methu” claf ag anableddau dysgu “yn ddifrifol” – a hynny “oherwydd ei hanableddau,” yn ôl adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd yr Ombwdsmon fod Ysbyty Maelor Wrecsam wedi “methu” gofalu am ddynes oedd â nifer o gyflyrau meddygol – gan gynnwys epilepsi, parlys yr ymennydd ac anableddau dysgu. Fe wnaeth hi dderbyn gofal a thriniaeth yno ym mis Gorffennaf 2022. 

Roedd yr ysbyty wedi methu a rhoi “gofal effeithiol” i’r ddynes gyda'i hanghenion gofal personol – gan gynnwys ei maeth – yn ogystal â'i chyflwr epilepsi, gan ddweud nad oedd staff yn “deall ei hanghenion yn llawn.”

Roedd y claf yn byw mewn cartref nyrsio. Roedd ei chyfathrebu yn gyfyngedig, ac roedd angen gofal 24 awr arni.

Roedd hi hefyd wedi “dioddef yn ddiangen” gyda phoen yn dilyn sawl achlysur pan nododd teulu’r claf a’r tîm Anableddau Dysgu ei bod yn dioddef, meddai’r adroddiad. 

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Roedd safon y gofal a gafodd Ms A yn llawer is na'r safon gofynnol. 

“Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal iechyd wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth gael mynediad at ofal iechyd. 

“Ni ddigwyddodd hyn yn achos Ms A, a derbyniodd safon gwael o ofal oherwydd ei hanableddau dysgu."

'Methiant'

Dywedodd yr adroddiad bod Ms A ond wedi derbyn gofal neu feddyginiaethau i fynd i’r afael â’i phoen pan oedd aelodau staff oedd yn ei hadnabod yn bresennol yn yr uned ysbyty. Ni chafodd asesiadau penodol eu haddasu er mwyn ymdrin ag anghenion penodol y claf, meddai.

Roedd methiannau hefyd o ran ei meddyginiaethau er mwyn rheoli ei hepilepsi. Roedd “safon gwael o gofnodion” mewn perthynas â thrawiadau Ms A ac roedd yn “aneglur” a oedd y staff nyrsio yn gallu adnabod trawiadau Ms A. 

'Gwella'

Fe ddaw’r adroddiad wedi i deulu Ms A gwyno am safon ei thriniaeth. 

Roedd chwaer Ms A, sy'n cael ei hadnabod fel Ms D, wedi cwyno yn uniongyrchol i’r bwrdd iechyd, ond roedd safon eu hymateb cychwynnol yn “llawer is” na’r hyn sy’n ofynnol meddai’r Ombwdsmon. 

Mae’r Ombwdsmon bellach wedi gwneud sawl argymhelliad i’r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys ymddiheuriad; darparu hyfforddiant pellach i’w staff; a gweithredu archwiliad ward rheolaidd o ddogfennau nyrsio. 

Dywedodd yr Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn ei chanfyddiadau a’i chasgliadau ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion. 

Mewn ymateb, dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Drawsnewid a Chynllunio Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rwy’n ymddiheuro’n ddiffuant i Ms A a D, ar ran y Bwrdd Iechyd, a byddwn hefyd yn ysgrifennu llythyr uniongyrchol yn ymddiheuro am y methiannau yn ein gofal a’r modd y gwnaethom ni ymdrin â'r gŵyn.

“Roedd safon gofal Ms A yn llawer is na’r hyn rydym yn ei ddisgwyl, ac rydym yn derbyn argymelliadau’r Ombwdsmon.

“Er ein bod yn croesawu cydnabyddiaeth yr Ombwdsmon ynglŷn â’r datblygiad rydym wedi gwneud hyd yma, rydym yn ymwybodol bod yna ragor i wneud ac rydym yn cymryd camau pellach i wella ein gwasanaeth a’r safon o ofal rydym yn darparu.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.