'Anghyfiawnder': Galw am ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd
'Anghyfiawnder': Galw am ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd
Mae rhieni yn ne Caerdydd yn dweud eu bod nhw a’u plant yn wynebu “anghyfiawnder” gan nad oes ysgol gyfun iaith Gymraeg yn ddigon lleol iddyn nhw.
Mae cymunedau Glanyrafon, Treganna, Grangetown, Tre-biwt, Bae Caerdydd ac ardaloedd cyfagos bellach yn galw ar Gyngor Caerdydd i weithredu ar frys er mwyn sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, er mwyn iddyn nhw gael “opsiwn hygyrch” ar eu “stepen drws.”
Fe ddaw’r galwadau wedi i nifer o ddisgyblion blwyddyn 6 ysgolion dalgylch Ysgol Gyfun Glantaf yng ngogledd y brifddinas gael gwybod yn gynharach eleni nad oeddent wedi cael lle yn yr ysgol.
Er i’r penderfyniad hwnnw gael ei newid yn ystod proses apêl gan banel statudol annibynnol, mae nifer o rieni ac ymgyrchwyr wedi dweud fod y profiad “pryderus” a “siomedig” hwnnw wedi ail-danio galwad am ysgol uwchradd Gymraeg i blant yn ne’r brifddinas. Maen nhw'n dweud bod “dyletswydd” ar y cyngor i weithredu ar unwaith.
Bydd trigolion de Caerdydd bellach yn lansio ymgyrch ddydd Iau drwy gyflwyno llythyr gerbron y Cyngor, ac mi fydd plant a’u teuluoedd yn ymgynnull o flaen Neuadd y Sir gyda phlacardiau a baneri yn galw am newid.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y rhiant ac ymgyrchydd Catrin Dafydd ei bod yn pryderu bod plant yn cael “eu gadael ar eu hôl” a bod hynny’n “anghyfiawnder.”
“Mae’n gwbl amlwg bod rhaid teithio ar draws y ddinas ar hyn o bryd a bod hynny yn rhoi pobl dan anfantais mewn gwirionedd i orfod teithio mor bell a methu gwneud y mwyaf o arlwy allgyrsiol Ysgol Glantaf,” meddai.
“Mae ardal de Caerdydd yn ardal ddifreintiedig a ni’n teimlo bod angen i’r ardal gael addysg uwchradd fel opsiwn hawdd ar stepen drws sy’n dathlu hunaniaeth unigryw yr ardal – ni’n ardal aml ddiwylliannol ag yn falch iawn o hynny.
“Allwn ni ddim aros yn rhagor, mae plant yn cael eu gadael ar eu hôl – dyw e ddim yn wasanaeth teg i dde Caerdydd.”
'Pryder'
Dywedodd Catrin Dafydd fod yr ymgyrch yn “unol â chwricwlwm newydd i Gymru” gan eu bod yn galw am addysg Gymraeg i blant yn yr ardal y maen nhw’n perthyn iddi.
Dylai “balchder” yn y gymuned fod “wrth galon” yr addysg y mae’r plant yn eu derbyn, a hynny yn eu “hiaith eu hunain,” meddai Ms Dafydd.
“Mae lot fawr o deimladau cryfion ymysg y bobl ifanc sydd wedi bod yn pryderu ynghylch dyfodol mynd i’r ysgol uwchradd, os ydyn nhw'n mynd i gael eu gwahanu oddi wrth eu cyfeillion gorau a ni mo'yn rhoi llais i’r bobl ifanc 'na.
“Mae wedi dod yn amser i’r cyngor wireddu hynny er tegwch i blant de Caerdydd,” meddai.
Ond dywedodd ei bod hi a’r ymgyrchwyr eraill yn “obeithiol iawn” y bydd Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo eu galwadau.
“Ni eisiau fe ddigwydd nawr. I ddweud y gwir fe ddylai’r cynlluniau yma wedi digwydd ymhell o flaen llaw ond ni’n mynd yna gyda’r ysbryd o gydweithio dydd Iau.
“Y cam nesaf ni’n gofyn am yn ein llythyr yw gofyn i’r Cyngor yn garedig os fyddan nhw’n cyfarfod â chynrychiolaeth ohonom ni fel ymgyrch a ‘dyn ni’n gobeithio’n fawr y byddan nhw’n ymateb yn gadarnhaol i hynny er mwyn parhau’r ddeialog hynny yn y tymor newydd.”
'Dim digon o ddisgyblion'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd na fydd hi’n "gynaliadwy" ystyried adeiladu pedwaredd ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg yn y brifddinas ar hyn o bryd.
“’Dyn ni’n ymwybodol fod yna rhai rhieni sydd yn awyddus i gael ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg yn agosach i ble y maen nhw’n byw, a ‘dyn ni’n deall hynny," medden nhw.
“Ond mae ehangu ar ddarpariaeth addysg iaith Gymraeg – neu unrhyw ehangiad, pe bai’n drwy'r Saesneg neu Gymraeg – yn golygu cynllun gofalus er mwyn sicrhau fod yr holl ddarpariaeth yn gallu gweithredu'n effeithiol ac yn gynaliadwy.
“Byddai adeiladu ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg ar hyn o bryd – a hynny pan mai ‘na ddigon o lefydd ar gael yn y tair ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg sydd eisoes yng Nghaerdydd – yn peryglu cynaliadwyedd yr ysgolion rheiny."
Dywedodd y llefarydd bod disgwyl i’r nifer o ddisgyblion sydd am fynychu ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg ostwng yn ystod 2025/26 a 2026/27, ac mai disgwyl i niferoedd barhau yn isel nes 2031/32 o leiaf oherwydd cyfraddau geni is.
“Yn syml, does ‘na ddim digon o ddisgyblion i lenwi pedwar ysgol gyfrwng Gymraeg a dyw’r cyfraddau geni ddim yn awgrymu y byddai hynny’n newid yn y dyfodol agos," medden nhw.