Y darlledwr Steve Wright wedi marw o ganlyniad i glwyf yn ei stumog
Bu farw’r cyflwynydd radio Steve Wright yn dilyn rhwyg mewn wlser (ulcer) yn ei stumog, yn ôl ei dystysgrif marwolaeth.
Bu farw’r darlledwr, oedd yn un o leisiau amlycaf gorsaf BBC Radio 2, yn 69 oed fis Chwefror.
Achos ei farwolaeth oedd peritonitis difrifol, sef haint ar leinin y stumog, ac wlser a wnaeth achosi rhwyg yn ei stumog.
Dywedodd Heddlu’r Met ar y pryd bod marwolaeth Mr Wright mewn fflat yn Marleybone, yn Llundain, yn “annisgwyl ond ddim yn cael ei hystyried yn un amheus.”
Ymunodd â'r BBC yn y 70au gan gyflwyno rhaglenni ar BBC Radio 1 a 2 am dros bedwar degawd.
Roedd yn cyflwyno rhaglen y prynhawn yn ystod yr wythnos, yn ogystal â’r rhaglen Sunday Love Songs.
Daeth ei gyfnod fel cyflwynydd rhaglen y prynhawn i ben fis Medi 2022, ond fe barhaodd fel cyflwynydd Sunday Love Songs hyd at gyfnod ei farwolaeth.
Cafodd ei gadarnhau’n flaenorol na fyddai cwest yn cael ei gynnal i farwolaeth Mr Wright.
Cafodd ei wneud yn MBE ar restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2024 am ei wasanaeth i radio.