Noel Thomas yn derbyn gradd er anrhydedd
Noel Thomas yn derbyn gradd er anrhydedd
Mae’r cyn is-bostfeistr o Fôn, Noel Thomas, wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Cafodd Mr Thomas ei gydnabod am ei ran yn yr ymgyrch i daflu goleuni ar sgandal Horizon, yr achos o gamweinyddu gan Swyddfa'r Post.
Fe wnaeth meddalwedd Horizon arwain at achosion troseddol yn erbyn 700 o is-bosteistri, gan gynnwys nifer yng Nghymru, gan fod y system wedi gwneud iddi ymddangos fod arian ar goll.
Roedd Mr Thomas yn gyn is-bostfeistr yng Ngaerwen ac fe gafodd ei gyhuddo o ddwyn £48,000 gan Swyddfa'r Post, ac fe dreuliodd naw mis yn y carchar.
Cafodd hanes Noel ei bortreadu yn y gyfres ddrama ITV, Mr Bates vs the Post Office, yn gynharach eleni.
Daeth sylw cenedlaethol i'r sgandal yn dilyn y gyfres, a wnaeth arwain i holl euogfarnau'r cyn is-bostfeistri gael eu diddymu.
Bydd Alan Bates, cyn is-bostfeistr yn Llandudno, a wnaeth arwain yr ymgyrch yn erbyn Swyddfa’r Post, hefyd yn debryn gradd er anrhydedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: “Cafodd Noel Thomas, cyn is-bostfeistr o Ynys Môn, gydnabyddiaeth am ei ran arwyddocaol yn yr ymgyrch yn erbyn yr achos o gamweinyddu cyfiawnder sylweddol yn y Deyrnas Unedig a elwir yn sgandal Horizon.
“Bu’n rhan o frwydr gyfreithiol hirfaith, ac yn ymgyrchu ochr yn ochr ag eraill i glirio enwau is-bostfeistri a wynebodd euogfarnau troseddol oherwydd meddalwedd cyfrifo diffygiol.
"Mae ei ymrwymiad i geisio cyfiawnder i’r rhai a ddioddefodd yn sgil y sgandal yn enghraifft o’i wytnwch ac o ba mor benderfynol yr oedd i ddatgelu’r gwir.”