Bangor: Dyn wedi marw a thair dynes wedi eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Mae dyn wedi marw a thair dynes wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor brynhawn dydd Mawrth.
Derbyniodd yr heddlu adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gar ychydig cyn 13:00 y tu allan i'r orsaf ambiwlans ar Ffordd y Traeth.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - Toyota Yaris a Vauxhall Vivaro.
Aeth swyddogion o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r digwyddiad.
Cafodd dyn oedrannus yn y Toyota Yaris ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke – ond bu farw yn ystod oriau mân y bore.
Cafodd dynes oedd yn y car ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Cafodd dwy ddynes oedd yn y Vauxhall Vivaro eu cludo i Ysbyty Gwynedd lle maent yn parhau ag anafiadau difrifol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd hon.
“Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi siarad â ni, ond rydym yn apelio am dystion neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd y Traeth ychydig cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera cerbyd i ddod ymlaen.
“Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau er mwyn caniatáu i’n Tîm Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymholiadau cychwynnol a hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a modurwyr am eu hamynedd.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru dros y we neu ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000354477.