‘Ma' nhw’n mynd i ladd o’: Tystiolaeth tyst yn achos ymosodiad honedig gan blismon ym Mhorthmadog
Mae llys wedi clywed sut y gwnaeth ymgais i arestio dyn droi'n 'wyllt’ cyn ymosodiad honedig arno gan blismon mewn gardd tŷ ym Mhorthmadog.
Mae PC Richard Williams, 42 oed, yn wynebu cyhuddiadau o dagu bwriadol ac achosi niwed corfforol i Steven Clark ar stad Pensyflog yn y dref ar 10 Mai 2023.
Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ar ail ddiwrnod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, clywodd y llys dystiolaeth gan bobl a welodd y digwyddiad, yn ogystal â datganiadau gan swyddogion yr heddlu.
Ychydig wedi 11.00 ar ddiwrnod yr ymosodiad honedig, roedd Mr Clark yn rhif 23 Pensyflog. Mae'n dweud ei fod yno er mwyn gwneud gwaith garddio.
Yna, toc cyn 12.00, fe wnaeth dau swyddog yr heddlu, PC Richard Williams a PC Einir Williams, fynd i’r eiddo er mwyn arestio Mr Clark mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig yn gynharach yn y dydd, y tu allan i dŷ ei gyn-bartner.
'Mynd yn wyllt'
Clywodd y rheithgor ddatganiad gan un o’r tystion, Tammy Humphreys, gafodd ei ddarllen gan fargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Richard Edwards KC.
Yn byw dros ffordd i’r tŷ ble’r oedd Mr Clark yn garddio, dywedodd Ms Humphreys ei bod wedi gweld y digwyddiad o ystafell wely ei thŷ.
Dywedodd ei bod wedi galw ei chwaer yng nghyfraith, Sarah Humphreys, i fyny’r grisiau, ar ôl sylweddoli bod yr heddlu wedi dod i arestio Mr Clark.
“O’n i’n sefyll yna yn bod yn fusneslyd,” meddai yn ei datganiad.
“Pan wnaeth pethau fynd yn wyllt, es i i’r ffenest a dechrau ffilmio’r digwyddiad ar fy ffôn.
“Roedden nhw’n siarad efo fo, yn dal ei freichiau. Yn sefyll o flaen y tŷ, roedd y swyddog benywaidd i ochr dde Steven a’r swyddog gwrywaidd i’w chwith.
"Roedd Steven yn wneud synau gwirion, fel ei fod yn nadu, fel bod o’n trio bod yn ddramatig a trio cael sylw pobol.
“Dw i ddim yn siŵr os wnaeth y swyddog benywaidd ddisgyn neu os oedd hi wedi cael ei gwthio, ond fe wnaeth hi ddisgyn i’r llawr ac fe wnaeth Steven fynd i’r llawr.
"Roedd y tri ohonyn nhw yn rowlio ar y llawr. Roedd y swyddog benywaidd yn trio dal coesau Steven. Roedd y swyddog gwrywaidd yn eistedd ar ei fraich arall a’i ddal wrth ei wddf, a dechrau dyrnu Steven yn ei ben.
"Dyna pa bryd neshi weiddi allan o’r ffenest, ‘dwi’n siŵr bod chi ddim yn fod i ddyrnu fo fel 'na.”
'Ma nhw’n mynd i ladd o'
Yn ei datganiad, dywedodd Sarah Humphreys, chwaer-yng-nghyfraith Tammy Humphreys: “Dwi’n meddwl oeddan nhw’n trio ei arestio ond roedd yn gwrthsefyll. Roedd yna sgarmes.
"Roedd Steven ar ben y swyddog benywaidd am gyfnod byr, ar y glaswellt.
"Roedd y plismon gwrywaidd ar y llawr efo’i fraich rownd gwddf Steven. Roedd stumog Steven ar y llawr.
"Dyna pa bryd nes i ddeud, “OMG, ma nhw’n mynd i ladd o.’ Wedyn naeth y plismon ddyrnu Steven sawl tro yn ei ben."
Ychwanegodd y datganiad: “Roedd y plismon yn gweiddi ‘stop resisting’, tra bod nhw yn sgyfflo ar y llawr. Wedyn daeth dyn arall i helpu nhw, dwi’n meddwl ei fod yn swyddog cudd.
"Ro’n i’n gallu gweld bod wyneb Steven wedi chwyddo. Dwi’n meddwl ei fod wedi ei roi yn y fan wyneb yn gyntaf, oherwydd roedd ei draed yn yr awyr.”
Pryder
Clywodd y llys dystiolaeth gan ddau swyddog oedd wedi eu galw i’r lleoliad wedi i PC Richard Williams a PC Einir Williams alw am gymorth.
Yn ei ddatganiad, dywedodd PC Iestyn Hughes fod yna “bryder” am PC Richard Williams a PC Einir Williams am nad oeddent yn ymateb i gyfathrebu ar eu setiau radio.
Dywedodd datganiad y plismon: “Fe glywsom fy nghyd-weithiwr Einir yn galw am gymorth ar ei radio. Fe wnaethon ni wneud ein ffordd yno.
“Fe wnaethon ni geisio cael ymateb ganddi ar y radio, ond ni ddaeth ymateb. Roeddem yn pryderu amdani ac fe wnaethon ni ymdrin â’r alwad fel ‘galwad red one’.
“Ychydig wedyn, fe glywsom Richard neu Einir yn dweud ar y radio bod y person wedi ei arestio. Roeddwn i’n falch o glywed gan fy nghyd weithwyr.”
Dywedodd ei fod wedi gweld PC Richard Williams yng Ngorsaf Heddlu Porthmadog yn ddiweddarach.
“Roedd Rich yn edrych yn llwyr flinedig ac roedd mwd ar ei drowsus a'i wisg ddiogelwch.
"Fe ofynnais iddo be ddigwyddodd, a dywedodd bod Mr Clark wedi gwrthsefyll yr arestiad, a’i fod wedi defnyddio ergydion corfforol.”
Dywedodd PC Iwan Williams bod Mr Clark mewn ‘poen sylweddol’ ar ôl ei weld yn ddiweddarach yng nghefn fan heddlu y tu allan i'r orsaf heddlu.
“Nid oedd neb yn gwylio’r fan am foment fer. Fe gerddais i drosodd i weld sut oedd Clark.
"Edrychais y tu mewn a gweld Clark. Fe wnes i sylweddoli ar unwaith fod ganddo anaf i un o’i lygaid.
"Roedd yn ymddangos ei fod mewn llawer o boen. Fe fyddwn i’n ei ddisgrifio fel bod yn hanner ymwybodol. Fe wnes i adnabod ar unwaith fod angen sylw cymorth cyntaf proffesiynol arno.”
Mae’r achos yn parhau.