Newyddion S4C

Ymchwilio i 28 achos o haint cryptosporidium ymhlith ymwelwyr siop fferm

Oen bach

Mae'r awdurdodau iechyd yn ymchwilio i achosion o haint cryptosporidium ymhlith pobl sydd wedi ymweld â siop fferm yn y Bont-faen, ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn ymchwilio i nifer o achosion o'r haint cryptosporidium ymhith pobl sydd wedi bod mewn cyswllt â lloi ac ŵyn yn Siop Fferm y Bont-faen ar Fferm Marlborough Grange.

Ar hyn o bryd, mae ymchwiliad i 28 o achosion, yn ôl yr awdurdod iechyd.

Mae Siop Fferm y Bont-faen bellach wedi rhoi'r gorau yn wirfoddol i'r gweithgareddau sy'n ymwneud â'r anifeiliad.  

Maen nhw hefyd yn cydweithredu â’r ymchwiliad.

Math o salwch yw cryptosporidium sy'n gallu achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog. 

Mae ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill yn gallu lledaenu cryptosporidiosis.

Dywedodd Su Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i ymchwilio i’r achosion hyn ac i ddeall a oes risg ehangach i’r cyhoedd.

"Byddem yn cynghori unrhyw un sydd wedi ymweld â’r fferm, yn enwedig y rhai sydd wedi bod i sesiynau bwydo anifeiliaid, a sydd bellach yn profi symptomau, i gysylltu â’u meddyg teulu."

Ychwanegodd y gall plant ifanc a phobl â systemau imiwnedd gwan fod yn arbennig o agored i effeithiau’r haint.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.