Mae hofrennydd arbenigol wedi cyrraedd i helpu'r ymdrechion i ddiffodd tân gwair sy'n llosgi ers dros wythnos ger Harlech.
Yn dilyn cwynion am ddiffyg cymorth o'r awyr, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau y byddai hofrennydd diffodd tân arbenigol yn cynorthwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r tân ar fynyddoedd y Rhinogydd.
Daw'r cymorth ychwanegol ddiwrnod ar ôl i'r corff ddatgan sychder yng Ngogledd Cymru a Hafren Uchaf yn dilyn cyfnod o dywydd poeth estynedig.
Mae'r tân wedi bod yn llosgi yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers mwy nag wythnos erbyn hyn.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddydd Gwener y bydd yr hofrennydd o bosib ar y safle am "ychydig ddyddiau".
"Mae hofrennydd bellach wedi cyrraedd y safle ac mae'n cefnogi'r gwaith o ddiffodd y tân o'r awyr," meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth.
"Yn ogystal â'r cymorth o'r awyr, mae gweithgarwch diffodd tân sylweddol yn parhau ar lawr gwlad, gyda diffoddwyr tân yn gweithio gyda chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru i greu a chynnal bylchau tân er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y tân gwyllt.
"O ystyried maint a chymhlethdod y digwyddiad, mae'n bosib y bydd adnoddau'n aros ar y Rhinogydd am ychydig ddyddiau eto er mwyn parhau i fonitro'r amodau, asesu'r sefyllfa ac ymateb yn gyflym i unrhyw ailgynnau posib."
Ychwanegodd bod criwiau wedi bod yn ymateb i dân gwyllt arall ar Fynydd Bangor ers nos Iau.
Mae'r gwasanaeth tân hefyd yn parhau i fonitro'r amodau mewn ardaloedd ar draws y gogledd fel "mesur rhagofalus".
Maen nhw'n cynnwys Pentre Helygain a Mynydd yr Hob yn Sir y Fflint; Mount Pleasant yn Sir Wrecsam; Bwlch Sychnant yn Sir Conwy; a Pentrefelin, Sir Fôn.
Galw i gymryd gofal ychwanegol
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i annog y cyhoedd i gadw draw o'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio.
"Rydym yn ymwybodol bod rhai pobl yn teithio i safleoedd tanau gwyllt i dynnu lluniau a fideos," meddai'r llefarydd.
"Nid yn unig y mae hyn yn beryglus, ond gall hefyd rwystro gweithrediadau diffodd tân a mynediad y gwasanaethau brys.
"Dilynwch y wybodaeth ddiweddaraf gan y gwasanaethau swyddogol a pharchwch unrhyw ffyrdd sydd wedi'u cau a'r mesurau diogelwch sydd ar waith."
Yn ôl y gwasanaeth tân, dylai unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan fwg aros dan do, a chadw ffenestri a drysau ar gau.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn annog y cyhoedd i "gymryd gofal ychwanegol" yng nghefn gwlad dros y dyddiau nesaf wrth i'r tywydd sych barhau.
"Peidiwch â defnyddio barbeciws tafladwy, sicrhewch fod sigaréts wedi'u diffodd yn llwyr, ewch â'ch sbwriel adref, a pheidiwch byth â gadael poteli gwydr ar ôl, gan y gall y rhain gynyddu'r perygl o danau gwyllt," meddai'r llefarydd.
"Dylai unrhyw un sy'n gweld arwyddion o dân symud i le diogel a ffonio 999 ar unwaith."