Helynt cadair Eisteddfod Aberteifi 1976 wedi sbarduno Alan Llwyd i ymgeisio am drydedd cadair

Helynt cadair Eisteddfod Aberteifi 1976 wedi sbarduno Alan Llwyd i ymgeisio am drydedd cadair

Mae enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1976 wedi dweud bod yr helynt am seremoni’r cadeirio 50 mlynedd nôl wedi ei sbarduno i ymgeisio am drydedd cadair genedlaethol yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023.

Cafodd y Prifardd Dic Jones, a ddaeth i'r brig yn wreiddiol yn 1976, ei ddiarddel o'r gystadleuaeth am dorri rheolau'r Eisteddfod, ac fe gadeiriwyd Alan Llwyd oedd hefyd yn deilwng.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd y Prifardd Alan Llwyd mai dim ond ar fore'r cadeirio y gwnaeth benderfynu ei derbyn dan bwyse mawr gan swyddogion yr Orsedd.

Dywedodd ei fod "wedi gorfod llyncu ei falchder" gan fod y brifwyl yn dathlu 800 mlwyddiant ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf ac "mi fuasai'n ddifrifol petasai yna ddim cadeirio."

Wrth i'r Eisteddfod baratoi i ail ymweld â'r ardal, 50 mlynedd yn ddiweddarach, bu Alan Llwyd yn trafod un o'r penodau mwyaf dramatig yn hanes y Brifwyl gyda Newyddion S4C.

Roedd y Prifardd Dic Jones wedi ymgeisio am y gadair gyda'i awdl "Y Gwanwyn" o dan y ffugenw Rhosygadair, ac wedi defnyddio'r enw RL Jones a chyfeiriad yn Hwlffordd.

Penderfynodd yr Eisteddfod bod Dic Jones wedi torri'r rheolau, am ei fod wedi bod yn aelod o bwyllgor llên, a'r pryder oedd ei fod felly wedi cael mantais anheg, ac nad oedd hawl ganddo gystadlu.

Mewn cyfweliad gydag Emyr Daniel ar ôl yr helynt, dywedodd Dic Jones ei fod wedi ysgrifennu'r awdl "o waelod calon" fel teyrnged i'w ddiweddar athro barddol, Alun Cilie, er ei fod yn gwybod ei fod yn torri'r rheolau wrth ei chyflwyno.

"We ni yn gwybod fy mod i yn torri llythyren y rheol. O ni yn torri llythyren deddf ond cadw'r ysbryd," medai.

"Dw i ddim wedi cael mantais annheg ar neb."

Image
Alan Llwyd yn cael ei gadeirio
Alan Llwyd yn cael ei gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1976 (Llun: Archif BBC Cymru)

Dywedodd Alan Llwyd ei fod wedi bod dan bwyse aruthrol i dderbyn y gadair gan fawrion yr Orsedd.

"Roedd yna bwyse mawr arna i dderbyn. Roedden nhw yn dweud os na fyddwch chi yn derbyn, fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei difetha a dw i yn cofio Gwyndaf yn dweud, fe fydd yr holl waith mae pobl Aberteifi a'r cylch wedi gwneud, mi fyddai'n mynd i'r gwellt," meddai. 

"Doedden nhw ddim yn gwybod tan y bore dydd Iau fy mod i am dderbyn y gadair. Roedden nhw wedi cael eu hunain mewn sefyllfa anodd tu hwnt."

Yn ôl Alan Llwyd, roedd wedi cael sicrwydd na fyddai awdl Dic Jones yn cael ei thrafod o gwbl ar y llwyfan, ond fe gyfeiriwyd ati ym meirniadaeth Jâms Niclas, ac fe roddwyd esboniad am yr hyn oedd wedi digwydd gan yr Archdderwydd ar y pryd, R Bryn Williams. 

Image
Papurau newydd am helynt seremoni cadeirio 1976
Penawdau papurau newydd 1976

Bu Alan Llwyd, oedd yn 28 oed ar y pryd, yn siglo ei ben yn ystod anerchiad yr Archdderwydd yng ngwydd y camerau teledu.

"Mi ddywedodd Gwyndaf, bydd yna ddim cyfeiriad o gwbl at awdl Dic yn y gystadleuaeth, oherwydd dyw'r awdl ddim fod yn y gystadleuaeth," meddai. 

"Bydd mond cyfeiriadau at eich awdl chi a gweddill y cystadleuwyr, ond nid felly oedd hi."

Yn ôl Alan Llwyd "roedd hi'n anodd iawn codi" yn y pafiliwn a "doeddwn i ddim eisiau bod yna."

Ar ôl i'r amgylchiadau gael eu datgelu ar y llwyfan, dywedodd bod y cyfryngau wedi anghofio am ei awdl a'r ffaith iddo hefyd gyflanwi'r dwbl drwy gipio'r goron yn yr un flwyddyn. Hon oedd yr eildro iddo gyflawni’r orchest honno ar ol ennill y gadair a’r goron yn Rhuthun ym 1973.

"Cadeiriad anfoddog iawn oedd o. Sa well da fi wedi bod ennill o dan amgylchiadau normal," meddai.

'Ddim yn dal dig'

Dywedodd iddo fod yn "gocyn hitio" yn y wasg gyda rhai y dadlau na ddylai fod wedi derbyn y gadair.

Serch hynny, mae'n dweud "nad yw'n dal dig o gwbl" tuag at y diweddar Dic Jones.

"Y dirgelwch mwyaf oedd pam wnaeth Dic hyn? Doedd dim modd yn y byd y gallai lwyddo," meddai. 

"Dw i yn meddwl mai hon oedd Steddfod fawr Aberteifi. Steddfod y dathlu. 800 mlwyddiant sefydlu'r Eisteddfod yn Aberteifi. 

"Roedd yr Eisteddfod ym mro Dic, ac roedd eisiau ei hennill yn ei fro ei hun a'r hyn roedd y gadair yn ei chynrychioli. 

"Mae llawer o ddŵr wedi llifo dan bont Aberteifi erbyn hyn!"

Mae'n dweud iddo drafod yr helynt gyda T Llew Jones beth amser wedyn tra ar wyliau yn ardal Llangrannog. 

Dywedodd bod T Llew wedi dweud wrtho: "O'n i'n gwybod bod Dic wedi gwneud hyn, mi ddwedodd wrtha i. 

"A wedes i wrtho, Dic, sdim gobaith yn y byd 'da chi i lwyddo. Rhowch y gorau iddi nawr !"

Dywedodd Delyth Wyn, merch Dic Jones, ei bod hi'n 16 oed ac yn astudio ei haroliadau Lefel O pan gododd y storom yn y wasg ar ôl Eisteddfod Aberteifi.

"Roedd e'n gyfnod eitha lletchwith. Ac yn lletchwith i fy nhad."

Image
Delyth Wyn, merch Dic Jones
Delyth Wyn, merch Dic Jones

Dywedodd i'w thad dderbyn llythyrau dienw cas gan aelodau o'r cyhoedd oedd yn ddig, gan un yn ei ddisgrifio fel "gwarth i'w genedl."

"Mi dorrwyd sawl rheol yn ystod y cyfnod 'na. Roedd ffugenw y bardd buddugol yn hysbys ymhell cyn yr Eisteddfod," meddai.

"Roedd lot o reolau wedi cael eu torri. Mae fe'n hen, hen hanes, ac fe gafwyd dwy awdl am bris un!"

Mae Delyth Wyn yn dweud bod Alan Llwyd wedi cael ei roi dan "bwyse ofnadwy" i dderbyn y gadair gan swyddogion yr Eisteddfod ac ei bod hi'n cydymdeimlo yn fawr yn sgil yr effaith arno. Mae hi'n dweud bod ei thad yn awyddus i gael "beirniadaeth" ar gyfer i awdl yn fwy na dim.

"Cystadlu a chael beirniadaeth dw i yn meddwl oedd y peth pwysicaf iddo," meddai.

"Se fe'n ennill byddai hynny yn grand ontife ond gyda'r beirdd yma, pan mae'r awen yn tanio, fedrwch ddim a stopio fe mewn ffordd. 

"Roedd yn gyfuniad o dalu teyrnged a thestun wrth ei fodd e."

Image
Alan Llwyd
Alan Llwyd yn 2026

Dywedodd Delyth Wyn y bydd detholiad o awdl ei thad, y Gwanwyn yn cael ei chanu mewn cystadleuaeth Cerdd Dant yn Eisteddfod y Garreg Las sydd yn "rhywbeth mawr i'r teulu" ac bydd ei thad yn y Brifwyl "mewn ysbryd, yn edrych lawr ar bopeth."

Fe wnaed Dic Jones, Dic yr Hendre, yn Archdderwydd yn 2007, cyn ei farwolaeth yn 2009. Fe oedd y ffermwr cyntaf i ddal y swydd. 

Ym 1976 roedd beirdd ond yn medru ennill y gadair ddwywaith, ond fe newidiwyd y rheolau cyn Eisteddfod Llyn ac Eifionydd yn 2023, gan olygu bod modd i Alan Llwyd ymgeisio am drydedd cadair genedlaethol. Mae'n cyfaddef bod dileu'r atgofion gwael am gadeirio Aberteifi yn gymhelliad dros ymgeisio.

"Roedd yna gymhelliad arall yn Llyn, ar wahan i'r ffaith fy mod i eisiau cadeiriad olaf, o bosib, hapus, sef y ffaith fod fy mechgyn, heb son am fy wyrion, erioed wedi fy ngweld i yn cael fy nghadeirio," meddai.

"Roedd y teulu yna i gyd, ac roedd hynny yn achos balchder i mi. Roedd yna gymhelliad yna yn sicr i ennill am y tro olaf fel petai yn lân."

Yn ôl Alan Llwyd, roedd ei gyfaill Gerallt Lloyd Owen wedi bwriadu trio am y gadair ym 1976, ond heb orffen ei gerdd mewn pryd.

 "Roedd Geralllt yn arfer dweud gyda'i hiwmor arferol o, taswn i wedi gorffen fy awdl, se ni wedi arbed llawer iawn o drafferth i'r ddau ohonoch chi, gyda'i dafod yn ei foch!" meddai.

Yn ôl Delyth Wyn, cafodd Eisteddfod Aberteifi 1976 "ddwy awdl am bris un".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.