Darganfod 'sgerbwd llaw' ar gwrs golff yn Sir Benfro
Cafodd golffiwr dipyn o sioc wrth chwarae mewn clwb golff yn Sir Benfro, ar ôl darganfod yr hyn oedd yn ymddangos fel sgerbwd llaw ar y cwrs.
Fe wnaeth aelod o Glwb Golff Dinbych-y-pysgod ddarganfod y llaw ger twll cwningen ar nawfed twll y cwrs ddydd Gwener.
Mewn datganiad ar eu tudalen Faecebook dywedodd y clwb eu bod nhw wedi cael eu galw i'r twll gan yr aelod cyn mynd ati i alw'r heddlu.
Cafodd cordon ei osod o gwmpas y twll cyn i'r sgerbwd gael ei gludo i orsaf yr heddlu er mwyn dadansoddiad pellach.
Dywedodd y clwb, sydd wedi ei leoli ger Traeth y De yn Ninbych-y-pysgod, bod canlyniadau'r sganiau yn amhendant ac fe gafodd timau Ymchwilio i Leoliadau Trosedd eu galw ar gyfer archwilio ymhellach.
Wedi oriau o archwilio meddai'r clwb, cadarnhaodd y tîm ymchwilio nad sgerbwd llaw dynol a gafodd ei ddarganfod, ond un anifail.
Nid oedd yr heddlu yn gallu cadarnhau rhywogaeth yr anifail.
'Cyffro a dirgelwch'
Dywedodd Rheolwr Clwb Golff Dinbych-y-pysgod bod y canfyddiad yn destun sgwrs ymysg yr holl aelodau.
"Nid pob dydd rydych chi'n dod ar draws rhywbeth fel hyn ar gwrs golff," meddai.
"Yn sicr fe ychwanegodd ychydig bach o gyffro a dirgelwch i'n diwrnod arferol.
"Mae'n stori fydd yn cael ei hail-adrodd am flynyddoedd i ddod."