GWYLIWCH: Syr Keir Starmer yn syfrdanu côr ysgol wrth ymarfer yn y Senedd
Fe gafodd disgyblion ysgol gynradd o Gaerdydd dipyn o syndod ddydd Llun wedi i Brif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU wrando ar eu ensemble lleisol yn ymarfer.
Fe fydd disgyblion Ysgol Treganna yn perfformio yn y Senedd ddydd Iau fel rhan o ddigwyddiad i nodi 25 mlynedd o fodolaeth Senedd Cymru.
Fe gafodd y plant dipyn o sioc wedi iddyn nhw orffen perfformio’r gân ‘Safwn yn y Bwlch’ tra'n ymarfer.
Inline Tweet: https://twitter.com/adavies4/status/1810310621495222674?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet
Roedd Syr Keir Starmer, oedd yno i gyfarfod â Vaughan Gething ddydd Llun, ymhlith y gynulleidfa oedd yn eu cymeradwyo o'r llawr uwchben.
Mewn fideo a gafodd ei gyhoeddi ar X gan ohebydd Channel 4, Andy Davies, fe wnaeth Prif Weinidog newydd y DU a Phrif Weinidog Cymru eu canmol am eu perfformiad.
Dywedodd Syr Keir Starmer wrth y plant eu bod wedi cerdded heibio “pan glywsom ni sain hardd” oedd wedi eu swyno.