Newyddion S4C

Apêl am dystion i 'ddigwyddiad casineb hiliol' ym Mangor

08/07/2024
bangor

Mae’r heddlu yn apelio am lygad dystion yn dilyn digwyddiad casineb honedig ar sail hil ym Mangor fis diwethaf. 

Mae swyddogion yn credu bod dau unigolyn oedd yn cerdded ar hyd y stryd fawr yn y ddinas rhwng 19.00 a 20.00 ar nos Fercher 6 Mehefin wedi cael eu targedu ar sail hil. 

Fe wnaeth pobl oedd yn teithio mewn car Audi llwyd weiddi a thaflu gwrthrychau tuag atyn nhw, ychwanegodd y llu. 

Cafodd dynes 22 oed ei harestio ar amheuaeth o ymosod ac aflonyddu ar sail hiliaeth wedi’r digwyddiad, cyn cael ei rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau. 

Mae’r heddlu bellach yn credu bod rhagor o bobl yn teithio gyda’r ddynes yn y car ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un oedd yn bresennol i gysylltu gyda nhw. 

Mae nhw hefyd annog unrhyw sydd â lluniau neu gynnwys fideo o’r digwyddiad i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000505824.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.