Newyddion S4C

Taflegrau lluoedd Rwsia'n taro ysbyty plant yn Kyiv

08/07/2024
Ymosodiad ysbyty.

Mae 10 person wedi marw ar ôl i daflegrau lluoedd Rwsia daro ysbyty plant ym mhrifddinas Wcráin.

Roedd yr ymosodiad ar Ysbyty Plant Ohmatdyt yn Kyiv yn un o nifer ar draws y wlad.

Hyd yma mae'r ymosodiadau diweddaraf wedi lladd 24 person.

Dywedodd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky bod pobl yn gweithio i glirio'r rwbel o safle'r ysbyty plant ac nad oedd sicrwydd am gyflwr y nifer sydd wedi eu hanafu.

"Dyma un o'r ysbytai plant pwysicaf nid yn unig yn Wcráin ond hefyd yn Ewrop," meddai mewn datganiad ar X.

"Nawr mae'r ysbyty wedi cael ei ddifrodi gan ymosodiad gan Rwsia, mae pobl o dan y rwbel, nid ydym yn gwybod faint o bobl sydd wedi eu hanafu.

"Mae pawb yn gweithio i glirio'r rwbel - doctoriaid a phobl gyffredin."

Ychwanegodd fod rhaid i Rwsia gael "ei dal i gyfrif am eu troseddau yn erbyn plant a dynoliaeth."

Mae'r Arlywydd Zelensky yng Ngwlad Pwyl ddydd Llun lle mae disgwyl iddo arwyddo cytundeb diogelwch newydd rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd Oleksandr Vilkul, pennaeth gweinyddiaeth y fyddin, bod 10 wedi marw a 31 wedi eu hanafu ar ôl yr ymosodiad ar y brifddinas.

Ychwanegodd swyddogion eraill bod nifer wedi marw a'u hanafu yn Dnipro ac yn Pokrovsk yn adran Donetsk.

Nid yw Rwsia wedi gwneud sylwadau ar yr ymosodiadau ond mae wedi mynnu o'r blaen nad yw ei lluoedd yn targedu cartrefi ac adeiladau nad ydynt yn rhai milwrol.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.