Rhybudd melyn am law trwm i rai siroedd yng Nghymru
Mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi ar gyfer nifer o siroedd ar draws de a chanolbarth Cymru'n ddiweddarach dydd Llun.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 18:00 ac yn aros mewn grym tan 03:00 fore dydd Mawrth.
Fe allai rhai ardaloedd weld cymaint â 60-70mm o law yn ystod y cyfnod.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall llifogydd ar y ffyrdd amharu ar gynlluniau teithwyr a gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma restr o'r siroedd all gael eu heffeithio:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gâr
- Torfaen