Mam wnaeth gyfaddef dod a bywyd ei mab i ben 'yn heddychlon' wedi marw
Mae mam a wnaeth dod a bywyd ei mab ifanc oedd â chanser i ben yn "dawel ac yn heddychlon" wedi marw yn 77 oed.
Roedd Antonya Cooper wedi cyfaddef yn ddiweddar ei bod wedi rhoi'r cyffur morffin i’w mab saith oed, Hamish yn 1981.
Roedd gan Hamish niwroblastoma cam 4, canser prin sy'n effeithio ar blant yn bennaf.
Fe ddywedodd hi wrth BBC Radio Rhydychen bod Hamish wedi bod mewn llawer o boen a'i bod hi'n credu ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad cywir.
Roedd hi'n cefnogi'r ymgyrch i newid y gyfraith ynglŷn â chymorth i farw.
Mewn datganiad i'r BBC dywedodd teulu Mrs Cooper ei bod hi wedi marw o ganser dros y penwythnos.
"Roedd hi'n heddychlon, yn rhydd o boen a gartref gyda'i theulu cariadus," meddai ei merch, Tabitha.
"Dyna yn union roedd hi eisiau. Roedd hi wedi byw bywyd ar ei thermau ei hun ac wedi marw ar ei thermau ei hun."
Ychwanegodd fod swyddogion o Heddlu Dyffryn Tafwys wedi ymweld â’r teulu yn dilyn adroddiad Newyddion y BBC ddydd Mercher.