Etholiadau Ffrainc: Disgwyl Senedd grog
Etholiadau Ffrainc: Disgwyl Senedd grog
Mae disgwyl Senedd grog yn Ffrainc ar ôl canlyniadau annisgwyl yn ail rownd y pleidleisio ddydd Sul.
Methodd yr un blaid a chael mwyafrif digonol i reoli.
Roedd yr asgell dde yn gobeithio am fuddugoliaeth hanesyddol ond dyw hyn ddim wedi digwydd.
Mae'r canlyniad yn dangos buddugoliaeth i gynghrair y chwith a chynghrair Ensemble yr Arlywydd Emmanuel Macron yn ail.
Trydydd ddaeth le Rassemblement National (RN)- plaid asgell dde eithafol Marine Le Pen.
Roedd Macron wedi galw'r etholiad brys fis yn ôl, ac roedd plaid Marine Le Pen ar y blaen yn dilyn rownd gyntaf y pleidleisio.
Ond bellach mae'r blaid asgell chwith New Popular Front (NFP) wedi hawlio buddugoliaeth.
Fe wnaeth Jean-Luc Melenchon draddodi araith yn fuan ar ôl i’r blychau pleidleisio gau, gan alw’r canlyniadau yn “rhyddhad aruthrol i fwyafrif o bobl ein gwlad.”
Dyw Macron heb roi sylw ers i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi ac mae disgwyl i'r gweddill ddod yn hwyrach yn y dydd.