Covid-19: Rhybudd bod amrywiolion yn ennill y blaen ar frechlynnau

Mae pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio bod gwledydd cyfoethog yn rhy araf yn dosbarthu brechlynnau gyda gwledydd incwm isel.
Yn ôl Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, mae amrywiolion newydd yr haint yn ennill y blaen ar ddosbarthiad byd-eang brechlynnau Covid-19.
Mae amrywiolyn Delta bellach wedi cael ei gadarnhau mewn o leiaf 98 gwlad ledled y byd.
Mae ysgolheigion yn galw am ystyriaeth ofalus cyn brechu plant yn y DU.
Dywedodd Dame Sarah Gilbert, Athro ym Mhrifysgol Rhydychen a arweiniodd y tîm a ddatblygodd brechlyn AstraZeneca: "Rhaid i ni gydbwyso’r hyn rydyn ni’n ei feddwl am frechu plant mewn gwledydd incwm uchel â brechu gweddill y byd oherwydd mae angen i ni roi stop ar drosglwyddo’r feirws yn fyd-eang,” dywedodd wrth The Observer.
“Dydyn ni ddim allan o drafferthion yn llwyr. A dyna pam rwy'n poeni'n fawr am gael brechlynnau ledled gweddill y byd oherwydd mae angen i ni atal y firws rhag cael ei drosglwyddo a pharhau i esblygu. Gallai hynny roi amrywiolion newydd inni y bydd yn anodd iawn delio gyda nhw.”
Darllenwch y stori'n llawn yma.