Lleisiau Cymreig yw'r rhai mwyaf cysurol yn y DU medd ymchwil
Lleisiau Cymreig yw’r rhai myaf cysurol yn y DU yn ôl ymchwil newydd.
Mewn arolwg dywedodd 38% o bobl eu bod nhw’n ystyried fod lleisiau Cymreig yn fwy cysurol nag unrhyw ran arall o'r DU.
Daeth acenion Swydd Efrog a Chernyw yn gydradd ail ar 36 y cant ac yna Gogledd Iwerddon.
Tua gwaelod y tabl roedd acen Lerpwl uwchben Birmingham, Cocni a Swydd Essex ar y gwaelod.
Mae hynny'n golygu bod perthynas Gavin a Stacey o Y Barri yng Nghymru a Billericay yn Essex (uchod) ar y rhaglen BBC yn gyfuniad o acen fwyaf a lleiaf cysurlon y DU.
Trefnwyd yr arolwg barn o 1,502 o bobl gan wefan Spa.Seekers.com
'Atgofion melys'
Dywedodd Dr Chris Montgomery, uwch ddarlithydd mewn tafodieitheg ym Mhrifysgol Sheffield: “Rydym yn gwybod bod rhai acenion yn fwy dymunol nag eraill, felly mae wedi bod yn wych i fesur hyn.
“Rydym yn cysylltu pobl o wahanol leoedd gyda nodweddion gwahanol felly bydd yr acen sy'n gysylltiedig â phob lle hefyd yn gysylltiedig â'r nodweddion hyn.
“Er enghraifft, mae ynganiad derbyniol (Saesneg y Brenin) yn aml yn cael ei weld yn gysylltiedig â phobl crand neu rhai sydd wedi derbyn addysg dda sy’n gallu sbarduno rhai emosiynau a theimladau.
“Mae'r acenion sy'n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf cysurol yn y DU yn dod o leoedd y gallai pobl fod wedi teithio iddynt ar eu gwyliau ac efallai fod ganddynt atgofion melys a allai'n naturiol eu harwain at gael eu gweld yn fwy cysurol."
Ychwanegodd Dr Montgomery nad oes unrhyw acenion "gwell neu waeth" a bod canfyddiadau o leisiau yn dibynnu ar o ble mae'r gwrandawyr yn dod.
Edrychodd ymchwilwyr hefyd ar acenion tramor lle'r oedd Eidaleg ar frig y rhestr rhyngwladol ac yna Canada, Awstralia a Ffrainc.