Newyddion S4C

Miloedd o bobl ar hyd y strydoedd i roi teyrnged ar gyfer angladd Rob Burrow

Angladd Rob Burrow

Roedd miloedd o bobl wedi troi allan ar strydoedd Gorllewin Swydd Efrog ar hyd llwybr angladd y cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair Rob Burrow.

Roedd pum car yn y cynhebrwng wrth deithio ar y hyd y ffordd tuag at amlosgfa Pontefract.

Roedd ffrind a chyd-chwaraewr gyda Burrow, Kevin Sinfield wedi mynychu’r angladd, ar ôl hedfan yn ôl o gyfres brawf tîm rygbi Lloegr yn Seland Newydd.

Fe gynhaliwyd yr angladd preifat ar 7 Gorffennaf i anrhydeddu crys chwarae rhif 7 Burrow.

Bu farw ddechrau fis Mehefin yn 41 oed ac roedd wedi byw gyda chyflwr Motor Niwron (MND) ar ôl derbyn diagnosis yn 37 oed. 

Enillodd Burrow wyth teitl Super League gyda chlwb Leeds Rhinos.

Derbyniodd CBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd am ei wasanaethau i gyflwr motor niwron.

Fe lwyddodd Sinfield a Burrow i godi miliynau o bunnoedd gyda’i gilydd i elusennau i hybu ymwybyddiaeth ac ariannu ymchwil i MND.

Ddydd Gwener nesaf, fe fydd Cyngor Dinas Leeds ac Arglwydd Faer Leeds yn cynnal derbyniad dinesig i anrhydeddu Burrow.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.