Newyddion S4C

Cymru’n disgyn i’w safle isaf erioed yn nhabl detholion y byd

07/07/2024
Awstralia v Cymru

Mae tîm rygbi dynion Cymru wedi disgyn i safle rhif 11 yn nhabl detholion y byd.

Daw hyn yn dilyn y golled yn erbyn Awstralia yn Sydney ddydd Sadwrn, yr wythfed gêm yn olynol i Gymru golli.

Mae hyn yn golygu eu bod wedi llithro tu allan i’r 10 uchaf am y tro cyntaf ers cyflwyno’r safleoedd yn 2003.

Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland ar ôl y gêm yn erbyn Awstralia ei fod "yn union lle rydyn ni ar hyn o bryd".

Roedd y golled yn erbyn Awstralia yn golygu fod Cymru wedi colli 14 allan o 20 gêm yn ystod ail gyfnod Gatland fel prif hyfforddwr.

"Rydyn ni'n gwybod lle rydyn ni ar hyn o bryd - rydyn ni'n datblygu'r tîm yma," meddai Gatland.

"Fe wnaethon ni ddweud ar hyd yr amser ac rydyn ni wedi bod yn onest yn yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud.

"Rwy’n gobeithio y gall pobl weld rhywfaint o ddatblygiad o ran y chwaraewyr a chael profiad o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud tuag at Gwpan y Byd nesaf.

“Rwy’n deall eich bod yn mynd i gael pwysau gan bobl yn siarad am golli ar hyn o bryd.

“Ond yn y rhediad hwnnw rydyn ni wedi bod yn cystadlu mewn gemau, wedi bod ar y blaen ac yn hawdd gallem fod wedi ennill rhai, a heno yr un peth.

"Roeddwn i'n meddwl bod rhai pethau cadarnhaol o ran yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud. Rydych chi'n cael penderfyniadau sy'n mynd eich ffordd ac rydych chi'n ennill.

“Mae’r rheini’n eiliadau mawr y mae angen i ni ddysgu oddi wrthyn nhw i wneud yn siŵr yn y gemau tynn hynny eich bod chi’n gorffen ar yr ochr fuddugol.”

De Affrica sydd ar frig tabl detholion y byd gydag Iwerddon yn ail a Seland Newydd yn drydydd.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.