Newyddion S4C

Cynlluniau i adfer eglwys enwog 600 oed yn Eryri

06/07/2024
Eglwys Sant Julietta

Mae un o eglwysi lleiaf Cymru – sydd â chysylltiadau ag aristocratiaid, artistiaid a mynyddwyr – ar fin cael ei hadfer yn sylweddol.

Mae Cyfeillion y Santes Julitta yng Nghapel Curig wedi cael caniatâd gan bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i adfer llawr yr adeilad sy’n 600 mlwydd oed.

Credir i Santes Julitta gael ei hadeiladu ar ddiwedd y 15fed neu ddechrau'r 16eg ganrif.

Bellach wedi'i ddadgysegru, mae'r Cyfeillion yn gofalu amdano – grŵp cadwraeth a hanes lleol gwirfoddol.

Yr enw gwreiddiol ar yr eglwys restredig Gradd II oedd Capel Curig, er i adeilad mwy gael ei agor yn 1883 yn y pentref ac fe gymerwyd yr enw Sant Curig.

Credir i Sant Curig fyw yn y chweched ganrif ac fe'i gelwid yn Curig Lwyd neu Curig Farchog (Curig y Marchog), yn ôl gwefan History Points.

Yn ôl dogfennau cynllunio Santes Julitta mae “tystiolaeth hanesyddol i Gapel Curig gael ei adeiladu tua 1540, dan nawdd Syr Rees Griffiths o’r Penrhyn, y cymerodd ei chwaer Margaret a’i gŵr fferm y Gelli Mynach ar brydles lle codwyd y capel anwes”.

Mae'r capel yn sefyll ar ffordd yr A4086 ger Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas y Brenin.

Fe’i hadnewyddwyd ym 1776, ac yna ei adnewyddu’n helaeth ar draul y tirfeddiannwr lleol George Hay Dawkins-Pennant, o Gastell Penrhyn yn 1839.

Mae'r capel hefyd yn adnabyddus am fod yn rhan o olygfa enwog o Eryri o Gapel Curig ac wedi ymddangos yn gyson mewn paentiadau a ffotograffau dros y blynyddoedd.

Mae'r Cyfeillion wedi cael caniatâd i ddatguddio'r hen lawr llechi o dan gerrig palmant concrit modern y tu mewn i'r eglwys.

Gwella cymeriad ac ymddangosiad

Bydd y gwaith yn cynnwys codi, symud a chael gwared ar yr hen lawr o'r 1960au sy'n cynnwys tua 160 o gerrig llechi.Bydd hefyd yn gweld gwaith ar ddwy garreg ymyl i'r allor a chael gwared ar sgri rhydd i amlygu'r llawr llechi o ganol y 19eg ganrif.

Y nod, meddai’r Cyfeillion, yw “gwella cymeriad ac ymddangosiad eglwys”.

Bydd gwaith yn gweld adfer y llawr llechi oddi tano gan ddefnyddio llechi slab Penrhyn cyfatebol.

"Fe fyddwn ni wedyn yn adfer y seddau bocs ar ffrâm bren gydag estyll, fel yr oedden nhw’n wreiddiol,” meddai’r Cyfeillion.

Mae’r cynlluniau’n dweud bod y grŵp hefyd eisiau cael gwared ar y llawr palmant concrit “amhriodol” o’r 1960au sy’n “niweidio’n ddifrifol edrychiad hanesyddol ac esthetig tu fewn yr eglwys”.

Mae mynwent Santes Julitta yn cael ei hadnabod fel man gorffwys yr artist Lady Alice Douglas Pennant, a aned ym 1862.Roedd hi’n ferch i’r Arglwydd Penrhyn, George Douglas-Pennant (1836-1907) o Gastell Penrhyn, a bu’n catalogio casgliad celf y castell.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.