Newyddion S4C

Ystyried cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026 ar gyrion Aberteifi

Eisteddfod Genedlaethol

Bydd cyngor Sir Benfro yn cyfarfod ddydd Iau er mwyn ystyried cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026 ger Aberteifi.

Byddai yn nodi 850 mlynedd ers i’r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal yn y dref gan yr Arglwydd Rhys.

Mae’r safle yn Llantwd, rhwng Aberteifi ac Eglwyswrw ar ochor Sir Benfro o’r ffin.

“Gofynnir yn awr i'r Cabinet gymeradwyo'n ffurfiol gynnig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynnal Eisteddfod 2026 yn Sir Benfro ar safle yn Llantwd, ychydig oddi ar yr A487,” meddai agenda'r cyngor.

“Yn dilyn mynegiant o ddiddordeb gan y cyn Arweinydd yn 2022, mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi cadarnhau y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn cael ei chynnal yn Sir Benfro.”

Mae’r ddogfen yn ychwanegu: “Mae yna nifer o resymau hanesyddol hefyd am y penderfyniad gan fod 2026 yn nodi 850 mlynedd ers sefydlu'r Eisteddfod yn ardal Dyffryn Teifi.”

Dywedodd y ddogfen fod dau opsiwn yn wynebu'r cyngor:

  • Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r penderfyniad i gynnal yr Eisteddfod ar safle Llantwd.
  • Bod y Cabinet yn tynnu eu cais i gynnal y Brifwyl yn ôl.

Dywedodd dogfen y cyngor bod swyddogion yn argymell “cymeradwyo’r cynnig i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026 ar safle Llantwd sydd o fewn Dyffryn Teifi”.

Eisteddfod Aberteifi 1176, a gynhaliwyd dros y Nadolig, yw'r eisteddfod gyntaf sy'n hysbys.

Fe'i cynhaliwyd gan Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn ei lys yn Aberteifi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.