Newyddion S4C

Llosgfynydd Etna yn ffrwydro eto gyda lafa’n llifo o geudwll

06/07/2024
Llosgfynydd Etna

Mae Etna, llosgfynydd actif fwyaf Ewrop, wedi ffrwydro unwaith eto gyda lafa’n llifo o geudwll ar y copa.

Dywed Asiantaeth Ofod Ewrop fod y llosgfynydd yn nwyrain Sisili mewn cyflwr cyson o weithgarwch.

Etna yw un o losgfynyddoedd mwyaf actif y byd a bu'n rhaid cau maes awyr Catania.

Syrthiodd lludw tywyll o’r ffrwydrad ar drefi wrth droed y llosgfynydd, a bu’n rhaid i drigolion ysgubo haen drwchus o lwch oddi ar strydoedd a phalmantau.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe ddwysaodd gweithgaredd hefyd yn Stromboli, llosgfynydd i’r gogledd o Sisili yn yr Ynysoedd Aeolian, gyda chymylau enfawr o ludw yn codi ac yn disgyn i'r môr.

Dywedodd Salvatore Cocina, pennaeth adran amddiffyn sifil Sisili, fod yr awdurdodau’n gwerthuso’r posibilrwydd y gallai lafa sy’n disgyn i’r môr o losgfynydd Stromboli achosi tswnami.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.