Rhybudd bod ffyrdd ar gau wrth i Sioe Awyr Cymru ddychwelyd
Wrth i Sioe Awyr Cymru dychwelyd i Fae Abertawe, mae’r trefnwyr wedi rhybuddio y bydd nifer o ffyrdd ar gau yn y ddinas dros y penwythnos.
Bydd Sioe Awyr Cymru yn cael ei chynnal yn rhad ac am ddim gan Gyngor Abertawe, gan ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn.
Fe fydd y prif ddigwyddiad – sef sioe awyr Red Arrows y Llu Awyr – yn cael ei gynnal am 17.15 brynhawn Sadwrn.
Gyda nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal trwy gydol y penwythnos, mae'r trefnwyr wedi rhybuddio y bydd nifer o ffyrdd ar gau.
Fe gafodd Ffordd Ystumllwynarth a Ffordd Mwmbwls eu cau i gyfeiriad y gorllewin ddydd Gwener ar gyfer y gwaith o baratoi.
Bydd y ffyrdd yna ar gau i’r ddau gyfeiriad o 05:00 oriau mân fore Sadwrn hyd at ddydd Llun.
Bydd Ffordd Pantycelyn ar gau rhwng Rhodfa Dyfed a Ffordd Townhill rhwng 08:00-19:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Inline Tweet: https://twitter.com/walesairshow/status/1805567134279352375
Mae’r trefnwyr wedi dweud y bydd dargyfeiriadau yn cael eu gosod.
Bydd modd cyrraedd Stryd Argyle drwy ddargyfeiriad ar hyd y Ganolfan Ddinesig.
Mae'r trefnwyr wedi ymddiheuro i drigolion lleol am unrhyw oedi o flaen llaw.