Newyddion S4C

Tanio’r tymor newydd gyda phedair gêm gyffrous yn Ewrop

07/07/2024
Caernarfon Town / FAW Photography

Ar 18 Mai, 2024 daeth tymor Cymru Premier JD 2023/24 i ben gyda Chaernarfon yn creu hanes drwy guro Pen-y-bont o 3-1 gartref ar yr Oval yn rownd derfynol y gemau ail gyfle a sicrhau eu lle’n Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Llai na deufis yn ddiweddarach ac mae Caernarfon, ynghŷd a’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala yn barod i ddechrau tymor 2024/25 yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Ewrop.

Ar ôl ennill pencampwriaeth y Cymru Premier JD, bydd Y Seintiau Newydd yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr unwaith yn rhagor, tra bydd Cei Connah, Y Bala a Chaernarfon yn cystadlu yng Nghyngres Europa.

Bydd y pedwar clwb o Gymru yn dechrau eu hymgyrchoedd yn rownd ragbrofol gyntaf eu cystadlaethau, a bydd angen ennill pedair rownd o gemau rhagbrofol os am gyrraedd rownd y grwpiau.

Does dim un clwb o byramid Cymru erioed wedi llwyddo i gyrraedd rownd y grwpiau, ac mae’r gynghrair wedi talu’r pris am hynny gan golli un lle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.

Cyrraedd y grwpiau ydi’r nod i’r Seintiau Newydd, tra byddai Cei Connah, Y Bala a Chaernarfon yn anelu i ennill o leiaf un rownd ragbrofol, er mwyn dyblu eu henillion ariannol.

Y Seintiau Newydd v FK Dečić (Montenegro) | Nos Fawrth, 9 Gorffennaf – 19:00 

(Neuadd y Parc, Croesoswallt - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2024/25)

Ar ôl codi tlws y Cymru Premier JD am yr 16eg tro yn eu hanes, a gorffen 34 pwynt yn glir ar frig y tabl gan beidio a cholli gêm, mae’r Seintiau Newydd yn paratoi am ymgyrch arall yn Ewrop.

Chwaraeodd cewri Croesoswallt yn Ewrop am y tro cyntaf yn 1996 gan gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Ruch Chorzow o Wlad Pŵyl, ond colli 0-5 oedd eu hanes yn yr ail gymal.

Bu’n rhaid i’r Seintiau aros tan 2007 am eu buddugoliaeth gyntaf yn Ewrop, ac honno mewn gêm gartref yn erbyn Ventspils o Latfia (3-2), cyn colli ar y rheol goliau oddi cartref dros y ddau gymal.

Ond yn 2011 fe lwyddodd Y Seintiau Newydd i ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf drwy drechu Cliftonville o Ogledd Iwerddon (2-1 dros ddau gymal).

Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 78 o gemau yn Ewrop gan ennill 17 o rheiny (22%), ac mewn 40 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar naw achlysur (23%).

Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.

Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau.

Yn sicr mae gan y Seintiau fwy o brofiad yn Ewrop na’u gwrthwynebwyr eleni, FK Dečić, sydd ond wedi chwarae dwy rownd flaenorol yn Ewrop, gan golli’r ddwy rownd hynny.

Chwaraeodd FK Dečić yn Ewrop am y tro cyntaf yn haf 2021 ar ôl dod yn drydydd yn Uwch Gynghrair Montenegro, ond colli bu eu hanes yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa yn erbyn Drita o Cosofo, cyn colli eto’r flwyddyn ganlynol yn erbyn Dinamo Minsk o Felarws. 

Y tymor diwethaf, fe lwyddodd FK Dečić i ennill pencampwriaeth Montenegro am y tro cyntaf yn eu hanes, ac felly eleni mi fydd o clwb o dref Tuzi, sy’n agos i’r ffîn gydag Albania, yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf erioed.

Bydd y  Seintiau Newydd yn gobeithio am well rhediad na’r tymhorau diwethaf, gan nad yw’r clwb wedi ennill rownd yn Ewrop ers tair blynedd.

Collodd y Seintiau yn erbyn BK Häcken o Sweden yn y rownd hon llynedd, cyn syrthio i Gyngres Europa ble gollon nhw yn erbyn Swift Hesperange o Lwcsembwrg. 

Dros yr haf mae enillydd gwobr ‘Chwaraewr y Tymor Cymru Premier JD 2023/24’, Sion Bradley, wedi ymuno â’r Seintiau Newydd o Gaernarfon i gryfhau’r bygythiad ymosodol, a bydd y clwb yn falch hefyd o fod wedi gallu dal eu gafael ar enillydd yr Esgid Aur y llynedd,  Brad Young.

Dyma’r tro cyntaf i’r Seintiau Newydd wynebu clwb o Montenegro, ac mae’r disgwyliadau yn uchel ar garfan Craig Harrison i drechu FK Dečić a chyrraedd y rownd nesaf.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym mhrif ddinas Montenegro yn Stadion Pod Goricom ar nos Fawrth, 16 Gorffennaf, sef y stadiwm cenedlaethol ble bydd Cymru yn wynebu Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu Ferencváros (Hwngari) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres Europa i herio Ludogorets Razgrad (Bwlgaria) neu Dinamo Batumi (Georgia).

NK Bravo (Slofenia) v Cei Connah | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 17:00 

(Venue Športni Park Šiška, Ljubljana - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)

Bydd Cei Connah, orffennodd yn ail yn Cymru Premier JD 2023/24 yn teithio i Slofenia i wynebu, NK Bravo, orffennodd yn bedwerydd yn PrvaLiga Slofenia 2023/24.

Mae’r Nomadiad yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 20 gêm (ennill 4) a chamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20.

Mae NK Bravo o Ljubljana, sef prif ddinas Slofenia, yn glwb gymharol newydd ffurfiodd yn 2006, ac ar ôl dringo’r cynghreiriau yn y degawd diwethaf, eleni fydd eu ymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop.

Mae gan reolwr Cei Connah, Neil Gibson atgofion melys o chwarae’n Ewrop ar ôl sgorio gôl dyngedfennol wrth i Brestatyn guro Liepajas Metalurgs o Latfia yn 2013.

Mae Gibson wedi ychwanegu sawl enw cyffrous i’r garfan dros yr haf, yn cynnwys cyn-gapten a chefnwr chwith Y Seintiau Newydd, Chris Marriott, yn ogystal â’r golwr ifanc, George Ratcliffe wnaeth serennu rhwng y pyst i Bontypridd y tymor diwethaf.

Ar ôl colli eu chwe rownd flaenorol yn Ewrop, mae’r gobeithion yn uchel i’r Nomadiaid fydd yn targedu eu buddugoliaeth gyntaf ers curo Kilmarnock yn 2019.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Nantporth, Bangor ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn wynebu HŠK Zrinjski Mostar (Bosnia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Caernarfon v Crusaders (Gogledd Iwerddon) | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 18:30 (Yn fyw ar S4C)

(Nantporth, Bangor - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)

Mae Caernarfon wedi cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl gorffen yn bumed yn nhymor 2023/24 a mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle.

Bydd hi’n noson hanesyddol i’r Cofis sydd wedi bod mor agos at Ewrop yn y gorffennol, yn colli o 5-3 yn erbyn Y Drenewydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2020/21, cyn ennill y gemau ail gyfle yn 2021/22 ond yn methu a hawlio lle’n Ewrop ar ôl i Gymru golli un safle’n Ewrop.

Roedd yr ymateb yn gymysg pan gyhoeddodd y clwb y byddai nhw’n chwarae eu gêm Ewropeaidd yn Nantporth, sef cartref presennol Bangor 1876, ond gyda’r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu’n gyflym mae’n ymddangos fod y penderfyniad wedi ei gyfiawnhau.

Bydd hi’n anodd i reolwr Caernarfon, Richard Davies geisio llenwi esgidiau Sion Bradley, enillodd wobr ‘Chwaraewr y Tymor Cymru Premier JD 2023/24’ cyn gadael i ymuno â’r Seintiau Newydd, ond mae Davies wedi llwyddo i ddenu sawl enw profiadol i’r garfan, yn cynnwys Matty Jones a Ryan Sears o’r Drenewydd, a Paulo Mendes o’r Bala.

Mae gan gan Crusaders ddigonedd o brofiad Ewropeaidd ar ôl chwarae 54 o gemau’n Ewrop ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1967, gan ennill naw o rheiny (ennill 17%).

Mae’r clwb o Belfast wedi wynebu enwau mawr ar hyd a lled Ewrop, yn cynnwys Valencia, Lerpwl, Fulham, Wolves a Chasnewydd!

Mae’r Crues wedi cael ychydig o lwyddiant yn Ewrop yn ddiweddar, gan ennill eu rownd ragbrofol gyntaf yng Nghyngres Europa yn y ddau dymor diwethaf, yn curo Bruno’s Magpies (Gibraltar) a Haka (Y Ffindir).

Gorffennodd Crusaders yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon 2023/24, ac fel Caernarfon bu rhaid i’r clwb ennill y gemau ail gyfle i hawlio eu lle’n Ewrop.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Seaview, Belfast ar nos Fercher, 17 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Legia Warszawa (Gwlad Pwyl) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Y Bala v Paide Linnameeskond (Estonia) | Nos Iau, 11 Gorffennaf – 19:00 

(Neuadd y Parc, Croesoswallt - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)

Ar ôl un flwyddyn i ffwrdd, mae’r Bala’n dychwelyd i Ewrop eleni ac yn barod am eu 10fed rownd Ewropeaidd.

Mae’r Bala wedi cystadlu’n gyson yn Ewrop ers degawd, ond dyw’r canlyniadau ddim wedi bod yn wych gyda’r clwb wedi chwarae 16 gêm, ennill pedair, a churo dim ond un rownd allan o naw (yn erbyn Valletta yn 2020).

Roedd y Bala’n hynod o anlwcus yn eu hymddangosiad diwethaf yn Ewrop, wrth golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Sligo Rovers o Weriniaeth Iwerddon yn haf 2022.

Fel Cei Connah, mae’r Bala’n wynebu tîm gymharol newydd gan does ond 20 mlynedd ers i glwb Paide Linnameeskond gael ei ffurfio yng nghanolbarth Estonia.

Gorffennodd Paide yn bedwerydd yn nhymor 2023 y Meistriliiga i sicrhau lle’n Ewrop, ac mae’r tîm yn parhau’n yr un safle ar ôl 20 gêm yn nhymor 2024.

O’r pedwar clwb sy’n herio timau Cymru yr haf yma, Paide yw’r unig rai sydd yn chwarae trwy’r haf ac sydd yng nghanol eu tymor domestig ar hyn o bryd.

Dyw Paide ond wedi ennill un o’u 11 gêm flaenorol yn Ewrop, ond yn rhyfeddol mae nhw wedi ennill dwy allan o’u chwe rownd.

Yn haf 2022 fe guron nhw Dinamo Tbilisi o Georgia ar giciau o’r smotyn ar ôl ennill o 3-2 yn y cymal oddi cartref, sef eu hunig fuddugoliaeth mewn 90 munud.

Ac yn y rownd ganlynol, ar ôl dwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Ararat-Armenia, fe enillon nhw eto ar giciau o’r smotyn i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa, ble gollon nhw yn erbyn Anderlecht.

Mae rheolwr Y Bala, Colin Caton wedi bod yn brysur dros yr haf gan ddod a dau gyn-chwaraewr talentog yn ôl i’r clwb drwy ail-arwyddo Louis Robles o’r Drenewydd a Lassana Mendes o Henffordd.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Pärnu Rannastaadion ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Stjarnan (Gwlad yr Iâ) neu Linfield (Gogledd Iwerddon) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.